Dyma ddatganiad gan Gyngor Sir Caerfyrddin:
Mae pobl ifanc yn Llanybydder wedi adeiladu mainc fel cofeb i’r rhai y mae pandemig COVID-19 wedi effeithio arnynt.
Mae Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Cyngor Sir Caerfyrddin wedi bod yn gweithio gyda phobl ifanc yn y dref ar brosiect ynghylch bod yn falch o fod yn Gymro neu’n Gymraes ac yn ystod eu trafodaethau fe wnaethant feddwl am y syniad o greu mainc i gofio’r rhai y mae’r pandemig wedi effeithio arnynt.
Mae’r fainc bellach wedi’i gosod mewn man nodedig y tu allan i’r clwb rygbi a chynhelir diwrnod cymunedol ddydd Sadwrn yma Mawrth 12fed. Mae’r bobl ifanc wedi gofyn i’r côr lleol ddod draw i ganu, bydd y Canon Eileen Davies, Archddiacon Aberteifi, yn rhoi gweddi gysegru, ac yna bydd pice ar y maen a phaned o de.
Mae’r aelod lleol, sef y Cynghorydd Ieuan Davies, wedi ymwneud llawer â’r prosiect ac wedi ariannu coeden i’w phlannu yng nghanol y fainc.
Dywedodd: “Fel rhan o’r prosiect, roedden ni’n siarad am beth mae bod yn Gymro neu’n Gymraes yn ei olygu i chi a’ch cymuned. Dechreuon ni drafod y pandemig a sut mae wedi effeithio ar y gymuned, ac roedd y bobl ifanc yn meddwl y byddai’n syniad da cynnwys hyn yn y prosiect.
“Siaradais am fainc yr oeddwn wedi’i gweld a wnaed gan brosiect sied dynion ar gyfer cymuned leol, ac roedd y bobl ifanc yn meddwl y byddai’n syniad gwych adeiladu mainc, gyda chymorth staff y gwasanaeth cymorth ieuenctid, i gofio’r bobl yr oedd y pandemig wedi effeithio arnynt.
“Maen nhw wedi gwneud gwaith gwych ac rwy’n siŵr y bydd pobl Llanybydder yn gwerthfawrogi cael rhywle i fynd i eistedd, meddwl a chofio.”
Gwahoddwyd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Plant, i Lanybydder i gwrdd â rhai o’r bobl ifanc a oedd yn rhan o’r prosiect.
Dywedodd: “Mae hwn yn brosiect gwych gan bobl ifanc Llanybydder a hoffwn longyfarch pawb sydd wedi bod yn rhan ohono.
“Mae pandemig Coronafeirws wedi effeithio ar gynifer o gymunedau ac yn anffodus, mae llawer o deuluoedd wedi colli anwyliaid.
“Bydd y fainc hon yn darparu man heddychlon i bobl yn Llanybydder lle gallant gofio a myfyrio yn ogystal ag anrhydeddu’r rhai a oedd wedi helpu i ddod â’u cymuned yn agosach at ei gilydd drwy roi cymorth i bobl pan oedd ei angen arnynt.”