Pêl-rwyd a chodi arian

Tîm pêl-rwyd Llewod Llambed yn cynnal twrnament pêl-rwyd i godi arian tuag at yr ymdrechion parhaus yn Wcráin.

gan Ifan Meredith
Screenshot-2022-04-18-at-21.17.36

Mynychodd chwe thîm y twrnament pêl-rwyd unigryw yma i godi arian gyda tua 45 o chwaraewyr i gyd dros 11.

Cafwyd noson lawn pêl-rwyd ar nos Iau, y 14eg o Ebrill. Rhoddodd pob unigolyn a oedd yn cymryd rhan gyfraniad o leiaf £3.50. Bu’n noson hwylus iawn gyda £249 yn cael ei godi yn barod tuag at ymdrechion cludiant meddyginiaethu angenrheidiol yn Wcráin.

Daw’r syniad o ddigwyddiadau blaenorol wrth iddynt drefnu twrnameintiau i apêl Plant Mewn Angen, Wythnos Ymwybyddiaeth Cancr y Fron a ‘Comic Relief’. Gwelwyd cynnal y twrnament yn ‘ddewis naturiol’.

Anogwyd pawb i wisgo glas a melyn er mwyn dangos undod gydag Wcráin. Derbyniwyd rhoddion gan glybiau pêl-rwyd eraill yn y sir; Tysul a Bont Blades hefyd.

‘Yn ddiolchgar iawn i bawb wnaeth fynychu a rhoi arian’

Bu hefyd yn gyfle i groesawu wynebau newydd i’r tîm wrth i’r tîm groesawu unigolion o bob gallu ac o leiaf un chwaraewr di-aelod ar bob tîm.

‘Mae gan Llewod ethos cryf iawn- i ddarparu amgylchedd diogel, hwyl a chynwysedig i ferched a menywod i fwynhau chwaraeon tîm.’

Enillwyr y twrnament oedd tîm солідарність (Undod) a chwaraewyr y gemau oedd; Alex, Lynn, Violet, Sion, Sara, Luned, Jodie, Elin, Naiomi, Evelyn, Elin, Catrin a Rhian. Gyda 2 enwebiad yr un, llwyddodd Evelyn, Martha, Catrin ac Elin i ddod yn chwaraewyr y twrnament.

Is-gystadleuaeth y twrnament oedd i ddylunio poster i gynrychioli y timoedd amrywiol a thîm Tуга за домом (Hiraeth) llwyddodd i greu’r poster mwyaf creadigol.

Cydnabyddwyd hefyd eu bod yn ymwybodol o’r golled i’w cyfleusterau ac y gall y digwyddiad yma fod yr un diwethaf ac y maent yn parhau i frwydro yn erbyn cynlluniau Cyngor Sir Ceredigion ‘ar ran ein clwb bach, a hefyd ar ran y gymuned leol a chenedlaethau Llanbed yn y dyfodol gan y dylid mwynhau amrywiaeth fawr o chwaraeon tîm yn ein tref leol.’