Saif Ysgol Bro Pedr gydag Wcraín

Cyfweliad fideo â phennaeth Ysgol Bro Pedr ynglyn â chodi arian tuag at gymorth i Wcrain.

gan Ifan Meredith
LLun-popeth

Ar ddydd Gwener, Mawrth yr 11eg bu staff a disgyblion Ysgol Bro Pedr yn dangos undod ag Wcrain.  Dyma gyfweliad gyda Pennaeth Ysgol Bro Pedr, Mrs Jane Wyn:

 

Yn ystod y dydd bu’r staff a’r disgyblion yn gwisgo dillad glas a melyn gan gyfrannu arian am wneud hyn. Yn ogystal, cynhaliwyd stondin gacennau yn ystod amser egwyl bore ar y Campws Uwchradd gan Gyngor Ysgol Bro Pedr i godi arian. Hefyd, trefnwyd nifer o weithgareddau ar y Campws Cynradd.

Hyd yma, cyfanswm y swm a godwyd yw £1,875 sydd yn swm ‘anrhydeddus’ i’r ysgol ac y bydd yn cael ei drosglwyddo i elusen y Groes Goch i’w ddefnyddio yn yr Wcráin.

Mewn adeg o argyfwng, gwelwn yr ardal hon yn cydweithio wrth i siop Llanfair Clydogau casglu nwyddau i drigolion yr Wcráin, sefydlu canolfan ddosbarthu nwyddau yn Llanybydder a bod ‘Breichiau Ceredigion ar agor’ i fudwyr o Wcráin.