Mis Tachwedd – Dyfodol y Gymraeg.
Cyhoeddwyd arolwg o ystadegau Cyfrifiad 1981 gan Gyngor Sir Dyfed yn 1984, ac mae’r erthygl yn dyfynnu R.S.Thomas yn ‘cymell pob Cymro i wneud niwsans ohono’i hun pan fydd y nerthoedd Seisnig yn trio gwneud i chi deimlo’n alltud’.
1982
Cwmann – 5 o evacuees yn dod nôl o Lundain am dro. C.Ff.I. yn gwthio llo aur o Gwmann i Lanberis er mwyn codi arian i adran cardioleg Glangwili.
Llanfair Clydogau – Swper mawr yn sgubor fferm Pentre yn codi dros £1000 tuag at Sioe Llanelwedd
1983
Llambed – Siop Lemuel Rees yn cau gydag ymddeoliad Joan, Ken a Glenys Rees.
1983
Cwmann – Talentau bechgyn lleol; Mark Douglas yn eilydd yn nhîm rygbi Cymru; Karl Jones yn cynrychioi Cymru yn y ‘Formula Ford World Cup’, ac Aled Williams yn aelod o dîm Prydain Fawr (y 4 yn Gymry,) rasio motor beics traws gwlad.
Côr ‘Brethyn Cartre’ yn 10 oed – Caset ‘Cainc a Charol’.
Drefach a Llanwenog – Coeden afalau yn ei blodau ger Maesyfelin.
1984
Llun-Plant Ysgol Ffynnonbedr yn 1964.
Cwrtnewydd – Mary Harries, Gelly yn ymddeol fel cogyddes yr ysgol.
Cwmsychpant – Arwyn a Hetty Evans yn ymddeol fel ceidwaid y Capel.
Golygyddol – galw ar ddarllenwyr Clonc i ymateb i’r newyn a’r angen yn Ethiopia.
1985
Llangybi – 4 pâr o efeilliaid yn Ysgol y Dderi.
Llanybydder – Plant yr ysgol yn coffau 200 ml. ysgolion Sul yng Nghymru.
Llambed. Plant yr Ysgol Gyfun yn cynnal Gwasanaeth Diolchgarwch – y cyntaf o fewn cof yr athrawon.
Sioni Winwns nôl yn Llambed – ŵyr i Francis a ddeuai yma flynyddoedd yn ôl. Ias yn y camera – Parti Calangaeaf yr Urdd – pawb wedi gwisgo fel ysbrydion, gwrachod a bwganod. 2 gamera Clonc yn tynnu lluniau – ond ni ddatblygodd yr un llun !!!
1986
Llangybi yn ennill plac ‘Pentre Taclusa Ceredigion 1986’.
Llambed – Nansi a Joan Evans yn ymddeol fel cogyddesau yn yr Ysgol Gyfun.
1987
Lluniau’r llifogydd wedi’r glaw ofnadwy – 6 modfedd dros y penwythnos ddiwedd mis Hydref.
Llambed – Cyfres‘Dihirod Dyfed’ o waith Bethan Phillips, yn ymddangos ar y teledu.
Llanwnnen – Tafarn y Fish & Anchor yn cael ei hen enw yn ôl, sef ‘Y Gerdinen’.
1988
Llanwenog a Drefach – Capel Brynteg yn dathlu Canmwyddiant a hanner.
Alltyblaca – Arddangosfa ‘Celtic Lights’ o waith Pete Davies, (Ffotograffydd) ar daith drwy Gymru.
Llambed – Paul Jones, Pencampwr marchogaeth beic Cymru.
1989
Llangybi – Pentre Taclusa’ Ceredigion, ail-daclusa’ Dyfed.
Llambed- Mr Stephen Jones, gynt o Rosedale, yn 100 oed.
1990
Cwmann – Dathlu 100 mlwyddiant Eglwys Sant Iago yng nghwmni Archesgob Cymru, y Gwir Barch. Ddr. George Noakes. C.Ff.I. – Dylan Lewis yn ennill Cadair Eisteddfod Sir Gaerfyrddin.
Llambed Yr Ymgyrch dros Ysgol Ddwy-ieithog yn cynnal modurgad i Gaerfyrddin, i gyflwyno llythyr i
Swyddogion Awdurdod Addysg Dyfed.
1991
Llambed. Andrew Jones, Pentreshôn, pencampwr gwneud ffyn De Cymru, mewn sioe yn Sain Ffagan.
Llangybi. Siopwr yn gwrthod arddangos posteri Cymraeg – y Ffermwyr ifainc yn protestio. Plant Ysgol y Dderi yn ennill £1000 a chyfrifiadur oddi wrth BT am greu atlas o’r gymuned.
1992
Yr ymgyrch am addysg ddwy-ieithog yn dal i frwydro – protest yn Neuadd y Sir Caerfyrddin wrth i Bwyllgor Addysg Dyfed gwrdd.
Llanllwni – dechrau gwasanaeth pryd-ar-glud yn y pentre.
1993
Gorsgoch – Tristwch o glywed fod Ysgol y Blaenau i gau.
Llambed – Neuadd yr Eglwys ar agor er mwyn casglu bwyd a blancedi i anffodusion Sarajevo.
Cellan – Llŷr Thomas, Llain dêg, ‘mascot’ tîm rygbi Cymru, yn eu harwain allan i’r maes ym Mharc yr
Arfau.
1994
Llanybydder – Gwragedd Aberduar yn teithio i Ruthin er mwyn cefnogi Miss Maggie Lewis, Stafellwen gynt, fel Llywydd Chwiorydd Bedyddwyr Cymru.
Gorsgoch – 19 erw o dir Glydwer yn cael ei glustnodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI)gan y llywodraeth. Mae’r cynllyn eisioes wedi ennill 2 wobr yn 1987 a 1990.
Llambed – Aelodau Shiloh yn cydnabod gwaith y Parch. Lodwig Jones – 50 mlynedd yn y weinidogaeth. Tîm Criced Llambed wedi ennill Pencampwriaeth Adran 1 Gorllewin Cymru. Twynog Davies yn derbyn anrhydedd Cydymaeth y Sioeau Brenhinol ARAGS am ei gyfraniad arbennig i fyd amaeth.
1995
Llambed – Noson arbennig o osod blodau yn Neuadd y Celfyddydau, yng nghwmni Mrs. Iona Trefor Jones.
Llanybydder – Cangen Plaid Cymru yn cofio DJ Williams.
Drefach a Llanwenog. Capel Bethel yn rhoi anrheg i Mrs Mair Williams am ei gwasanaeth fel organyddes am 50 mlynedd.
1996
Llambed – Oedfa undebol y Bedyddwyr yn Noddfa i ddathlu penblwydd y Parch. WJ Gruffydd yn 80 oed; rhoddion y casgliad yn mynd i ‘Hafan Deg’. Agoriad swyddogol y Ganolfan Hamdden.
Cellan – Dillad Jo Conti yn y Sioe Ffasiynau Cymreig – ac i’w dangos mewn Sioe Ffasiynau yn Neuadd y Celfyddydau eto.
Cwmsychpant – Teyrnged coffa i Mrs Mary Havard.
1997
Llambed – Agoriad swyddogol y rinc dan do yn y Clwb Bowlio. Ail-agor Capel Shiloh wedi ei atgyweirio. Capel Noddfa yn dathlu 100 mlwyddiant. Clwb Sarn Helen – 7 aelod wedi rhedeg marathon yr Wyddfa.
Cwmann – Lyndon Gregson yn ennill ei gap 1af dros Gymru yn y Tîm Pel-droed dan 15.
1998
Llambed – Y Cylch Cinio yn 25 oed. Lansio llyfr Bethan Phillips ‘Rhwng Dau fyd’, – hanes Joseff Jenkins, y Swagman o Geredigion.
Cwrtnewydd – Lyn Rees, Tanrhos yn rhedeg ras 52 milltir yn Llundain, ac yn codi arian i Ymchwil Cancr.
Gorsgoch – Aduniad Ysgol Gorsgoch i gofio 100 mlwyddiant ei hagor.
1999
Llambed – Yr Ysgol Gyfun yn dathlu’r 50; apêl am luniau. Teyrnged goffa i Mr Eric Slaymaker
Llanybydder – Cwpan Aur y Byd Rygbi yng Nghlwb Rygbi Llanybydder.
Cwmann – Arthur Davies, Dolcoed – Llywydd Cymdeithas Tir Glas Prydain.
Dyma’r uchafbwyntiau misol a gyhoeddwyd gennyf hyd yma:
Fe ddaw uchafbwyntiau mis Rhagfyr cyn bo hir.