Taith Gerdded Bethel dros Wcráin

Codi dros £1,700 tuag at gymorth dyngarol ar fore braf.

Bethel Parc-y-rhos
gan Bethel Parc-y-rhos

Llun: Iona Davies

Ar fore Sul braf yr 20fed o Fawrth daeth tua 70 o bobl i gerdded yn ardal Parc-y-rhos er mwyn codi arian tuag at gymorth dyngarol i Wcráin.

Swyddogion Bethel Parc-y-rhos a drefnodd y daith a hyfryd oedd gweld cefnogaeth dda i’r digwyddiad.

Croesawodd Dylan Lewis bawb i Fethel erbyn 10 o’r gloch a chyflwynodd Nataliya Roach o Gwmann i annerch y dyrfa.  Daw Nataliya yn wreiddiol o Wcráin ac mae’n weithgar iawn ar hyn o bryd yn codi arian a danfon nwyddau hanfodol i’w mamwlad.  Cyn dechrau’r daith arweiniodd Dylan y weddi gan ofyn am heddwch, cymod ac adferiad yn Wcráin.

Arweiniwyd y daith gerdded gan Alun Jones a Lola i gyfeiriad Parc-y-rhos gan droi ar Sgwâr Brynmanalog i gyfeiriad Cilgell ac i’r ffordd fawr, nôl heibio Ddeunant unwaith eto cyn dringo rhan olaf y dair milltir i Fethel.

 

Talwyd y diolchiadau dan Eric Williams, sef cadeirydd y diaconiaid a mwynheuodd pawb baned a chacen cyn bwrw am adref.

Nododd Anne Thorne, un o’r diaconiaid “Canlyniad ardderchog i ddiwrnod arbennig: cerdded yn enw heddwch, cerdded yn erbyn anghyfiawnder a cherdded mewn cydymdeimlad â phobl Wcráin yn ogystal ag ‘estyn dwylo dros y mor’”

Diolch i bawb a ddaeth i gerdded ac i bawb â gyfrannodd mor hael tuag at yr achos.  Wrth gyhoeddi’r adroddiad hwn, daeth dros £1,700 i law Elma Phillips y trysorydd, ac fe drosglwyddir y cyfanswm i un o elusennau dyngarol Wcráin cyn diwedd yr wythnos.

Diolch yn ogystal i’r canlynol: Kees o gwmni Tregroes Waffles, Meinir o Brownies Hathren ac eraill a gyfrannodd ac a helpodd gyda’r lluniaeth, stiwardiaid y daith ac i bawb a helpodd mewn unrhyw ffordd.

Casglwyd lluniau’r daith ar gyfer y fideo uchod gan Elma Phillips, Dan Griffiths, Rhiannon Lewis, Elin Dafydd a Dylan Lewis.