Cynhaliwyd y daith gerdded Sul olaf Mai, ar ddiwedd mis prysur o weithgareddau codi arian Pwyllgor Llanbed a’r Cylch er budd Cymorth Cristnogol. Trefnwyd y daith gan Beryl Williams a Jennifer Thomas gyda chymorth Alun Jones, Parc-y-rhos.
Daeth pymtheg o gerddwyr ynghyd ar brynhawn ychydig yn wlyb i fwynhau taith hamddenol o bedair milltir a hanner. Cychwyn yn Silian a cherdded yn ardaloedd Talsarn a Felin-fach gan dynnu sylw at rhai o balasau’r fro. Sylwi ar Blas y Gelli, Trefilan ple adeiladwyd estyniad i’r plas gan y pensaer adnabyddus, John Nash (1752-1835). Deallir i’r llenor enwog Dylan Thomas fyw yn Y Gelli rhwng 1941 ac 1843.
Ychydig o ddringo wedyn i gyfeiriad Felinfach gan fwynhau’r golygfeydd o Ddyffryn Aeron a llawr gwlad yn ei holl ogoniant. Sylwi ar Blas y Braenog a chroesi’r Afon Aeron dros y bont a ail-adeiladwyd yn 1935 wedi’r bont flaenorol ddymchwel i mewn i’r afon.
Troi wedyn i gyfeiriad Lleiandy Llanllŷr a’r gerddi prydferth a sylwi ar Garreg Geltaidd gerfiedig yn y gerddi sy’n dyddio o’r seithfed ganrif. Pasio heibio fferm Tŷ Mawr a sylwi o bell ar Blas Abermeurig a Phlas Trefilan. Bu cyfle hefyd i ryfeddu at fyd natur yn ystod y daith gan weld y barcud coch, y boda, ffesantod a sawl hwyaden wyllt ar lan yr Afon Aeron.
Cafwyd prynhawn pleserus yn rhodio ardal oedd yn newydd i nifer o’r pymtheg oedd ar y daith. Credir i’r criw rhyngddynt gymryd bron i 200,000 o gamau ar y daith fydd yn cael ei hychwanegu at gyfanswm camau Pwyllgor Cymorth Cristnogol Llanbed a’r Cylch yn ystod mis Mai. Diolch yn fawr i bawb wnaeth gefnogi’r daith a chodi arian i Gymorth Cristnogol trwy Fedyddwyr Gogledd Teifi.