Tomos yn bowlio’r belen gyntaf a chymryd y wiced gyntaf yn Lord’s eleni

Y bowliwr cyflym o Lanbed yn cynrychioli Tîm Criced Cenedlaethol Siroedd Cymru

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
ABD0DBFD-1574-463D-9DC3
C96CFCFB-9E21-4609-BE29
9067E417-DC5E-40B3-BAFC
FDAFE7A9-8EE4-406D-B913
ABD0DBFD-1574-463D-9DC3

Ar Ebrill 14eg, cafodd Tomos Jones o Lanbed y fraint o gynrychioli Tîm Cenedlaethol Siroedd Cymru mewn gêm yn erbyn tîm yr MCC, a hynny ar faes enwog Lord’s yn Llundain.

Mi oedd tîm yr MCC yn cynnwys batiwr rhyngwladol presennol Iwerddon Paul Stirling a chyn chwaraewyr Morgannwg Steve Reingold a Sam Pearce.

Dyma gêm agoriadol y tymor criced ar faes Thomas Lord yr haf yma, yn wir Tomos fowliodd pelen gyntaf y gêm ac ef hefyd a gipiodd y wiced gyntaf wedi i Steve Reingold gael ei ddal gan y wicedwr Gareth Ansell o Glwb Criced Casgwent oddi ar fowlio Tomos. Er i Gymru golli yn y pen draw, mi oedd yn brofiad arbennig i’r bowliwr cyflym o Lambed.

Dywedodd Ceri Evans sy’n ddyfarnwr Prif Gynghrair De Cymru a’r Panel Cenedlaethol, “Mae Tomos yn fachgen hynod o bleserus a chwrtais.  Mae e wastad wedi bod yn bleser ei ddyfarnu. Fel bowliwr profiadol a chrefftus, mae’n rhoi o’i orau, yn gystadleuol ond yn dangos parch at bob dyfarnwr bob tro.”

Esboniodd Ceri Evans, “Mae’n cael ei adnabod fel TJ ar y cae criced.  Dwi wedi nabod Tomos fel dyfarnwr ers sawl blwyddyn bellach gan ei ddyfarnu fe’n chwarae i Dîm Cymru dan 18 oed, i Benybont ym Mhrif Gynghriar Criced De Cymru, ac yn ddiweddar ar gae enwog Lord’s yn Llundain, Tomos yn chwarae i Gymru yn erbyn yr MCC a finne yn dyfarnu – y ddau ohonom yn  cael y profiad o fod yn Lord’s am y tro cyntaf.”

Ychwanegodd Ceri Evans “Mae Tomos hefyd yn hoff iawn o’r cyfnod i gymdeithasu ar ôl gemau. Dymunaf y gorau iddo am weddill ei yrfa fel cricedwr a phwy a ŵyr rhyw ddiwrnod efallai y gall wisgo’r got wen fel dyfarnwr!”

Cafodd Tomos, sydd newydd gychwyn ar ei seithfed tymor gyda Chlwb Criced Pen-y-bont ar Ogwr yn Adran Gyntaf Uwch Gynghrair De Cymru dymor eithriadol o lwyddiannus y llynedd. Ar ddiwedd tymor 2021, Tomos oedd prif fowliwr adrannau’r Uwch Gynghrair wedi iddo gymryd 34 o wicedi yn ystod y tymor. Tipyn o gamp i fowliwr cyflym mor ifanc.

Mae Tomos wedi bod yn aelod cyson o garfannau Timau Siroedd Hŷn Cymru a Siroedd Cenedlaethol Cymru ers 2017, ac ers iddo gynrychioli Cymru am y tro cyntaf yn 2012, mae bellach wedi chwarae mewn dros 150 o gêmau dros ei wlad.

Felly chwi ddilynwyr brwd a chraff, pan fyddwch yn gwylio’r gêmau prawf rhwng Lloegr a’i gwrthwynebwyr Seland Newydd a De Affrica a’r holl gêmau undydd a’r rowndiau terfynol fydd ar y teledu o faes Thomas Lord yr haf yma, cofiwch mai bowliwr cyflym o Lanbed fowliodd y belen gyntaf a chymryd y wiced gyntaf ar faes enwog Lord’s yn nhymor criced 2022.