Torri ar wasanaethau hanfodol lleol ar ddiwrnod angladd y Frenhines

Newid trefniadau gyda Gŵyl Banc ychwanegol a chyfle i ddangos parch.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
6D45C04A-8F8C-41A5-9BF0

Llun drwy law Bryn Hyfryd ar Facebook.

Cafwyd ymateb cymysg i’r cyhoeddiad fod Dydd Llun y 19eg o Fedi yn Ŵyl y Banc ar gyfer diwrnod angladd y Frenhines.  Croesawyd diwrnod bant ychwanegol o’r gwaith gan lawer er mwyn dangos parch, ond beirniadwyd y penderfyniad gan eraill oherwydd y newidiadau i drefniadau gwasanaethau hanfodol ar adeg pan fod llawer o’r gwasanaethau hynny o dan bwysau beth bynnag.

Ar y llaw arall, dyna oedd y drefn ar farwolaeth Brenin neu Frenhines yn y gorffennol er na all y mwyafrif ohonom gofio hynny.  Yn y llun uchod, gwelir taflen yn galw ar siopau a busnesau Llanbed i gau ar ddiwrnod angladd y Brenhines Fictoria.  Gofynnwyd i bawb gau eu llenni ac i wisgo dillad du hefyd os yn cerdded o gwmpas.

Cyhoeddodd Grŵp Meddygol Bro Pedr y bydd Meddygfeydd Taliesin, Llanbed a Brynmeddyg, Llanybydder ar gau ddydd Llun.  Yn ogystal â hynny rhybuddion nhw y bydd fferyllfeydd lleol ar gau ac y dylai cleifion baratoi eu cyflenwad meddyginiaeth o flaen llaw.

Yng Ngherdigion bydd Boots ar agor yn Aberystwyth rhwng 10yb a 4yp ar ddydd Llun ac yn Sir Gaerfyrddin bydd Boots Caerfyrddin ar agor rhwng 10yb a 5yp a Boots Llanelli ar agor rhwng 1 a 5yp.

Dywed gwefan GIG Cymru:

Os bydd angen i chi weld meddyg ar frys dros y cyfnod hwn, ffoniwch 111. Mewn argyfwng meddygol, ffoniwch 999. Os ydych yn teimlo’n sâl ond nid yw’r broblem yn argyfwng meddygol, ffoniwch 111 ar gyfer gwasanaeth 111 GIG Cymru.

Dywed gwefan Cyngor Sir Ceredigion,

Bydd Gŵyl y Banc yn caniatáu i unigolion dalu eu parch i’w Mawrhydi a choffáu ei theyrnasiad. Bydd y Cyngor yn cynnal ychydig iawn o wasanaethau gan y bydd yn Ŵyl y Banc Cenedlaethol.

Bydd y gwasanaethau canlynol ar gau ar ddydd Llun, 19 Medi

– Canolfannau Hamdden

– Hyfforddiant Ceredigion

– Llyfrgelloedd Ceredigion

– Pyllau nofio

– Safleoedd Gwastraff Cartref

– Swyddfeydd yr Harbwr

– Ysgolion

I’r rhai sydd fel arfer yn cael eu gwastraff wedi’i gasglu ddydd Llun yng Ngheredigion, mae trefniadau ar hyn o bryd yn cael eu gwneud i gasglu bagiau du, gwydr, ailgylchu a gwastraff bwyd ar ddydd Sadwrn 17 Medi. Mae’r cyngor yn bwriadu casglu Cynnyrch Hylendid Amsugnol (CHA) sydd wedi’u trefnu ar gyfer dydd Llun ar ddydd Mawrth 20 Medi.

Yn Sir Gaerfyrddin hefyd, os yw eich gwastraff fel arfer yn cael ei gasglu ar ddydd Llun, bydd casgliadau nawr yn digwydd ddydd Sadwrn, 17 Medi. Mae hyn hefyd yn effeithio ar gasgliadau gwastraff gardd a hylendid.

Dylid rhoi eich biniau mas erbyn 6yb ar y diwrnod casglu, ailgylchu gymaint â phosib yn y bagiau glas, a rhoi unrhyw wastraff bwyd yn y biniau gwyrdd, sy’n cael eu casglu’n wythnosol. Bydd casgliadau ar gyfer gweddill yr wythnos yn parhau fel yr arfer.

Cyhoeddodd cwmni Evans Bros nodyn bwysig i brynwyr a gwerthwyr yr wythnos hon bod Mart Defaid Llanybydder wedi ei ganslo ar gyfer dydd Llun oherwydd angladd gwladol y Frenhines.  Mae hyn yn ergyd i’r diwydiant amaethyddol yn lleol gan nad yw Gŵyl y Banc yn arfer effeithio ar ffermwyr ac mae’n amharu ar y cyflenwad bwyd parhaus.  Ond cynhelir y Mart Defaid nesaf mewn wythnos a hynny ar y 26ain o Fedi.

Ar y llaw arall, mae rhai busnesau ar agor.  Cyhoeddodd y Royal Oak yn Llanbed neges o gydymdeimlad a dweud y byddan nhw ar agor drwy’r dydd er mwyn dangos darllediad o’r angladd ar y teledu gan gynnig paned gynnes am ddim i bob cwsmer.