#Clonc40 – Uchafbwyntiau Papur Bro Clonc misoedd Mawrth y ganrif ddiwethaf

Ar ben-blwydd Clonc yn 40 oed, edrychwn yn ôl ar brif straeon y papur bro rhwng 1982 a 1999.

gan Yvonne Davies
Clonc mis Mawrth 1990

Clonc mis Mawrth 1990.

Mis Mawrth Mis Cofio Dewi Sant, – y gwledda ar gawl cennin, Eisteddfodau’r Ysgolion, a ‘CLONC’ yn llawn o luniau’r plant yn eu gwisgoedd traddodiadol.

Diddorol yw edrych yn ôl drwy hen rifynnau Clonc, a gwir yw eu bod yn gofnod hanesyddol o gyrhaeddiadau unigolion lleol a digwyddiadau allweddol ein cymunedau.

1983

Logo Eisteddfod Genedlaethol Llanbed a’r Fro 1984 yn ymddangos.

Pwyllgor Bedlam yn cynnal noson ‘Cawl a Chân’ gyda Tecwyn Ifan, Cadwgan ac Elfed Lewis

Cwrtnewydd – Mr a Mrs Les Davies yn ymddeol o Swyddfa’r Post.

Amaethyddiaeth – nifer y siediai’n cynyddu ar ôl eira’r llynedd

1984

Hanes Ysgol Maestir yn ail-agor yn Sain Ffagan.

Islwyn Ffowc Elis yn dweud mae coffau Dewi Sant ry’n ni’n gwneud ar Mawrth y cyntaf nid dathlu ei farwolaeth ar y dyddiad yma.

Côr Cwmann – hanes y daith i Toronto.

Plât Eisteddfod 284 ar werth.

Clwb Rygbi Llanbed yn anrhydeddu Mark Douglas ar ennill ei Gap i Gymru.

1985

Hysbyseb i record Huw Chiswell “Dwylo dros y môr” – Yr arian i gyd yn mynd i helpu trueiniaid Ethiopia.

Hwyrnos yn y Llew Du, gyda Delyth Hopkin Evans, Timothy Evans ac Andrew O’Neill i godi arian i gael telyn i’r Ysgol Gyfun.

1986

Cystadleuaeth Tref a Phentref Cymreiciaf Dyffryn Teifi. Enillwyr: Pentre mawr – Llanybydder; Pentre bach – Gorsgoch; Tref – ataliwyd y wobr – diffyg diddordeb.

Llangybi – Y pentrefwyr wedi llwyddo i gael cyfyngiad teithio o 40 milltir yr awr drwy’r pentre.

Llanllwni – Yr Hybarch J.S. Jones yn ymddeol fel Ficer y Plwyf ar ôl 36 o flynyddoedd. Cynhaliwyd gwasanaeth arbennig i dalu teyrnged iddo ef a’i briod, Mrs Nansi Jones

Cwmann – Mrs Mary Williams, Ty Capel Bethel yn ennill y Fedal Gee am ei ffyddlondeb i’r Ysgol Sul am dros 80 o flynyddoedd.

1987

Cellan – Anrhydeddu Mr Williams, Llwynonn am ei waith fel Ysgrifennydd y Sioe Feirch am 25 o flynyddoedd. Derbyniwyd ef hefyd yn aelod anrhydeddus o Gymdeithas Ferlod Cymru.

Archfarchnad newydd?

“Clywais lawer o sôn a siarad

Y cawn ni eto un archfarchnad;

Mae gennym glamp o siop yn barod,

Mae un arall, siwr, yn ormod.

Glyn Ifans

1988

Gorsgoch – Wyn a Gwyneth Morgans, Glydwern yn creu Gwarchodfa Natur, a throi’r rhos yn ‘Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Llambed – Dr J. Williams yn derbyn siec am £550 tuag at y Feddygfa Newydd, – elw cyngerdd gyda Côr yr Urdd, Merched y Wawr, a Chór Cwmann.

Llongyfarchiade i Gareth Richards, Goedwig, am ennill gwobr yng nghystadleuaeth Gwyl Ddewi’r Western Mail. Ysgrifennodd Gareth lythyr oddi wrth Ymfudwr yn 1887.

1989

Llanwenog – Mr a Mrs JO Jones, Caellan yn ennill y wobr gyntaf yn ‘Crufts’ am y drydedd flwyddyn yn olynnol, gyda’u terrier Cymreig ‘Prif Grefftwr o Wenog. Pencampwr yn wir!

Llangybi – Colli cymeriad annwyl, sef Dai Herbert Evans

Plant Ysgol y Dderi yn plannu coed ar Ffern Denmarc.

Llanybydder – David Lyn a Mrs Ray Evans (Llwyncrwn gynt) yn cyfweld â phlant yr ardal i gymeryd rhan yn rhaglen deledu “Y Llyffant’. Dramateiddiwyd nofel buddugol Ray Evans yn Eisteddfod Abergwaun 1986.

1990

Coed wedi cwympo at ôl gwyntoedd cryf diwedd Ionawr.

Llambed yn “Wyrdd’. LAS yn gyfrifol am yr anghenfil-bwyta-caniau-aliwminiwm ar y cwmins, ynghyd â thynnu sylw at cyfleusterau ail-gylchu papur a photeli.

1991

Emyr Lewis yn ennill ei ‘Gap cyntaf.

Richard Marks, Wyngarth, yn cyfansoddi’r gân fuddugol – Yr un hen le- yn nghystadleuaeth “Cân i Gymru”.

1992

‘CLONC’ ar dâp erbyn hyn

1993

Llywodraethwyr Ysgol Gyfun Llambed yn cydnabod gwaith di-flino’r Bon. William Evans, Llanybydder, fel Llywodraethwr o 1967-1994.

Mr. John Beaufort Williams yn ymddeol fel Prifathro Ysgol Ffynnonbedr.

“Antur Teifi’ yn agor Canolfan fusnes newydd yn Llambed.

1994

Merched y Wawr Llanybydder yn gwau blancedi i’w hanfon i Rwmania. Noddwyd y gweithgaredd yma, – a’r arian yn mynd i wragedd Lesotho.

Dŵr Tŷ-nant, sy’n cael ei boteli yn Llambed, yn mynd i Ganolfan Disney yn Florida.

1995

Janet Evans yn ‘Halen y Ddaear’.

“Yn galon pob adloniant,- mewn

Aelwyd Mae’n hael ei diwylliant;

Diflino er plesio plant,

Heddiw molwn ei llwyddiant”

Cymydog

Llanllwni – Esgob Ty-Ddewi yn cysegru’r Ficerdy newydd.

1996

Cyfarfod Cyhoeddus yn neuadd yr Ysgol Gyfun, i drafod – a chytuno – gwahodd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i Lambed yn 1999.

Islwyn Ffowc Elis yn ymddangos ar y gyfres deledu “Portreadau’.

1997

Tafarn y Ram yw tafarn orau Cymru. Llongyfarchiade i Wyn a Mary.

Clwb Ffermwyr Ifainc Llanwenog yn dathlu’r 40.

1998

Arwyddion “Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru, Llanbedr Pont Steffan a’r Fro, 1999.

Gŵyl y Cyhoeddi Ebrill 1 – 5, 1998”

Swyddfa newydd ‘Golwg’ yn agor ar y Stâd Ddiwydiannol.

Llanybydder – Capel Aberduar yn cyflwyno rhodd i Mrs May Evans am ei gwasanaeth fel organyddes y capel am dros 30 o flynyddoedd.

Cwmsychpant – Pob aelod o ysgol Sul Capel y Cwm yn derbyn copi o’r ‘Perlau Moliant Newydd’ oddi wrth y Cyng. Alun James, am eu ffyddlondeb.

Cyhoeddwyd uchafbwyntiau misoedd Chwefror y ganrif ddiwethad ar ddydd Sul, a bwriadaf gyhoeddi blas o storïau misoedd Ebrill yn ystod yr wythnos nesaf.