Cynhelir cyfres o weithdai am ddim yn wythnosol ar ddydd Iau. Dyma gyfle i ddysgu sut i dyfu cynnyrch yn organig heb wario gormod o arian. Mae grŵp o ddeg yn cyfarfod ar foreuau Iau rhwng 10.00 a 12.00. Ceir gweithdy arall rhwng 1.00 a 3.00 p’nawn Iau ac mae dal llefydd ar ôl i chi ymuno â hwnnw.
Kim Stoddart, un o hyfforddwyr elusen ‘Garden Organics’ sy’n arwain y gweithdai. Mae’n byw yng Ngheredigion ac yn awdur llyfrau ac erthyglau sy’n trafod sut i dyfu cynnyrch yn organig. Mae hefyd yn dysgu eraill i arddio’n organig trwy gydweithio gyda byd natur. Cewch wybod mwy am ei gwaith, yn cynnwys ei gwaith gydag ieuenctid a’r rhai gydag anghenion dysgu arbennig, trwy ymweld â’i gwefan – www.greenrocketcourses.com
Mae’r elusen ‘Garden Organics’ (www.gardenorganic.org.uk) yn cynorthwyo eraill i dyfu eu cynnyrch yn organig ac yn cynnig gwybodaeth a chyngor ymarferol. Yn y gweithdai mae Kim yn dangos sut i blannu a gofalu am blanhigion o bob math – a chael hwyl wrth wneud hynny. Mae’n darparu’r holl ddeunyddiau angenrheidiol, yn offer, potiau, gwrtaith a phlanhigion. Dysgwyd eisoes am rinweddau gwahanol berlysiau megis llysiau’r bara, mintys, persli a saets. Dysgwyd hefyd sut i dyfu letys a phys yn ogystal â chyrens duon, mafon a mefus. Cawn fynd â rhai o’r planhigion gartref ac mae cyfle i adrodd nôl yn y gweithdai sut maent yn ffynnu. Cewch mwy o wybodaeth am y gweithdai yn rhifyn Ebrill o Clonc – cofiwch gael eich copi!
Agorwyd Canolfan Creuddyn, datblygiad gan gwmni Barcud, yn Nhachwedd 2021. Mae’n cynnig cyfleusterau ar gyfer busnesau lleol, y sector gofal cymdeithasol a sefydliadau elusennol. Gellir llogi ystafelloedd yno i gynnal cyfarfodydd fel y gwneir gyda’r Gweithdai Garddio. Swyddog Cyfleusterau Creuddyn yw Mel Thomas. Ei chyfeiriad e-bost yw creuddyn@barcud.cymru a’i rhif ffôn yw 01570 421795.
Os ydych am ymuno yn y gweithdai garddio hyn, cysylltwch gyda Mel Thomas – mae dal rhai llefydd ar ôl. Os na allwch ymuno yn y gweithdai hyn ond am wybod mwy am weithgareddau eraill a drefnir yng Nghanolfan Creuddyn, cysylltwch gyda Mel Thomas.