Yr A485 rhwng Llanllwni a Windy Corner yn ailagor

Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth yn diolch i fodurwyr a thrigolion am eu hamynedd.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
IMG_0283

Llun gan Paul Loader ar facebook.

Heddiw, 15fed Rhagfyr, cyhoeddodd Cyngor Sir Caerfyrddin bod ffordd yr A485 i Gaerfyrddin wedi ailagor yn llawn i gerbydau, yn dilyn gwaith brys i osod cwlfer newydd.

Mae rhan o ffordd yr A485, ger Pencader, wedi bod ar gau ers 7fed Tachwedd eleni, oherwydd bod cwlfer mawr wedi cwympo, lle roedd y traffig yn cael ei ddargyfeirio.

Roedd angen cau’r ffordd er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd wrth i Gyngor Sir Caerfyrddin osod cwlfer newydd yn lle’r un blaenorol a hynny o dan y ffordd.

Gydag ailagor y ffordd, symudir y signalau traffig dros dro ym Mhencader ar y B4459 hefyd.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith,

“Rhaid i mi ganmol Adrannau Priffyrdd a Thrafnidiaeth y Cyngor Sir, staff gweithredol a chontractwyr y fframwaith am y gwaith brys i osod cwlfer newydd a hynny mewn cyfnod byr o amser, diolch.”

“Hoffwn ddiolch hefyd i drigolion Pencader a’r ardal gyfagos, yn ogystal â modurwyr am eu hamynedd dros y mis diwethaf wrth i ni atgyweirio’r cwlfer a sicrhau bod y darn hwn o’r ffordd yn ddiogel eto.”

1 sylw

Hazel Thomas
Hazel Thomas

Wel na newyddion da
Diolch am rannu

Mae’r sylwadau wedi cau.