Aberteifi 15 Llanbed 31

Gêm dda oddi cartref i Dîm Cyntaf Llanbed

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Cafwyd gêm rygbi dda oddi cartref i Dîm Cyntaf Llanbed yn Aberteifi ddydd Sadwrn.  Aeth tyrfa dda o gefnogwyr Llanbed yno i gefnogi.

Y sgôr oedd Aberteifi 15 – 31 Llanbed.

Sgoriwyd y ceisiadau gan Guto Ebbsworth, Ryan Mackie, Osian Jones a Tomos Rhys gydag Osian Jones yn llwyddo gyda’r trosiadau a’r ciciau cosb.

Edrychir ymlaen nawr i’r gêm nesaf yn erbyn Llanybydder.