Cynhaliwyd dathliad ym Mhrifysgol Abertawe yn gynharach eleni i nodi degawd ers sefydlu’r Coleg Cymraeg ac yn sgil hynny, Cangen Abertawe o’r Coleg Cymraeg. Yn ystod y digwyddiad cyflwynwyd gwobrau i gydnabod llwyddiannau staff a myfyrwyr sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar fywyd trwy’r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe dros y degawd.
Un o enillwyr y digwyddiad oedd Alpha Evans o Lanbedr Pont Steffan a dderbyniodd Gwobr Cyfraniad Arbennig Myfyriwr Cangen Abertawe. Mae’r Wobr yn cydnabod cyfraniad myfyriwr sy’n aelod o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i fywyd a diwylliant Cymraeg o fewn cyfadran a/neu o fewn y Brifysgol yn ehangach.
Graddiodd Alpha o Brifysgol Abertawe gyda gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg llynedd, ac mae bellach yn astudio PhD yn archwilio diwylliant, iaith a gweithrediadau cyfreithiol tref Abertawe a Sir Forgannwg rhwng 1870 a 1914. Enillodd hi hefyd Wobr Merêd y Coleg Cymraeg yn 2022 ac mae Alpha bob tro yn aelod weithgar a brwdfrydig o gymuned myfyrwyr Prifysgol Abertawe.
Wrth son am y digwyddiad, meddai yr Athro Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi a Chadeirydd Cangen Abertawe, “Mae’r cydweithio rhyngom ni a’r Coleg Cymraeg wedi bod yn hynod o hwylus ac adeiladol dros y blynyddoedd gan ddwyn budd sylweddol i addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Mae wedi bod yn ddegawd o gynnydd a llwyddiannau amrywiol i staff a myfyrwyr y Gangen sydd wedi gwneud cyfraniadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol gan ddwyn bri ar y Brifysgol a’r Coleg Cymraeg. Pleser o’r mwyaf oedd cael cyflwyno gwobrau i rai o’r aelodau yn ystod y digwyddiad a chydnabod eu cyfraniadau i gyfoethogi addysg a chymuned cyfrwng Cymraeg Abertawe.”