Annie a Loulou yn ennill gêm ragbrofol Ceffyl y Flwyddyn yn y Sioe Fawr

Llwyddiant i ferch ysgol o Bencarreg mewn dosbarth o oedolion

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
EEAF34E1-ED94-4CBB-9977

Annie gyda’i thad a’i mam.

Enillodd Annie Thomas o Bencarreg, a’i merlen Cymreig adran  gêm ragbrofol Ceffyl y Flwyddyn yn Sioe Frenhinol Cymru.

Annie oedd y person ieuengaf i farchogaeth yn y dosbarth yn cystadlu yn erbyn oedolion ac enillodd 11 marc enfawr.

Mae Loulou ei merlen ond yn 7 oed ar ei ffordd i Sioe Ceffyl y Flwyddyn am yr eildro gydag Annie, ar ôl cymhwyso y llynedd ar gyfer bridiau mawr iau.

Roedd yn gamp enfawr i gymhwyso ond roedd gwneud hynny yn y Sioe Fawr yn gwireddu breuddwyd i Annie.

Dywedodd Lynda Thomas, mam-gu Annie,

“Mor falch o lwyddiant Annie ddoe yn Llanelwedd. Llongyfarchiadau cariad ac i bawb fu’n dy gefnogi. Edrych ymlaen am HOYS.”