Archesgob Cymru i bregethu yng Nghwmann

Y Parchedicaf Andy John yn dychwelyd i Eglwys Sant Iago y Dydd Sul hwn

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
7D765B91-8B33-4E8B-991D

Llun: churchtimes.co.uk

Bydd Archesgob Cymru y Parchedicaf Andy John yn bregethwr gwadd yn Eglwys Sant Iago, Cwmann ar ddydd Sul 26ain Chwefror am 10.30 y bore.  Mae yna gryn edrych ymlaen i’w groesawu yn ôl i’r plwyf.

Bu’r Parchedicaf Andy John yn ficer ar eglwysi St. Padrig, Pencarreg; St. Iago, Cwmann a Dewi Sant, Llanycrwys ac yn Archddiacon Aberteifi yn 2006 tan iddo gael ei wneud yn Esgob Bangor yn 2008.

Penodwyd ef yn Archesgob Cymru ar ddiwedd 2021 ac roedd ei gyn aelodau yn yr ardal hon yn ymfalchïo’n fawr yn hynny.

Y Parchedig Carys Hamilton yw Ficer presennol Eglwysi St. Padrig, Pencarreg; St. Iago, Cwmann; Dewi Sant, Llanycrwys; Holl Saint, Cellan a’r Santes Fair, Llanfair Clydogau a dywedodd “Mae pawb yn gyffrous iawn i’w groesawu yn ôl.”

Cafodd y Parchedig Carys Hamilton dipyn o sioc pan stopiodd campyrfan yr Archesgob tu fas Ficerdy Cwmann nôl ym mis Tachwedd y llynedd.  Roedd yr Archesgob wedi bod yn pregethu yn y brifysgol yn Llanbed ac wrth alw i holi am y plwyfolion gofynnodd y gŵr hyfryd a diymhongar i’r ficer os y gallai fod o unrhyw gymorth iddi a’i haelodau.

“Wel y Moses annwyl” oedd ymateb y Parchedig Hamilton pan agorodd y drws i’r Archesgob.

“Roedd yn cofio enwau pawb,” ychwanegodd “ac aeth am dro o gwmpas Parc-y-rhos.  Danfonais ebost ato ar fore Llun yn ei wahodd aton ni i bregethu ac fe atebodd ar unwaith chwarae teg iddo.”

Bydd aelodau’r pum eglwys yn dod ynghyd ar fore Sul er mwyn addoli gyda’r Archesgob a bydd cawl i bawb wedi’r oedfa yn Neuadd Sant Iago.  “Rydyn ni fel arfer yn ymuno mewn undod ar bumed Sul y mis beth bynnag,” meddai’r Parchedig Hamilton “mae’n ffordd i ddod i adnabod ein gilydd yn well hefyd.”

Mae gwneud hynny’r tro hwn yng nghwmni Archesgob Cymru yn mynd i fod yn ddigwyddiad arbennig iawn.