Cyhoeddwyd yr adroddiad hwn yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror Papur Bro Clonc.
Ar y Sul olaf o Fehefin 2020 mi gychwynnodd y Parchedig Carys Hamilton yn Gurad/Ficer ar yr eglwysi canlynol: St. Padrig, Pencarreg; St. Iago, Cwmann; Dewi Sant, Llanycrwys; Holl Saint, Cellan a’r Santes Fair, Llanfair Clydogau.
Magwyd Carys ar aelwyd Gristnogol, yn un o bedwar o blant, yn ardal Brongest. ‘R oedd ei mam yn athrawes yn yr Ysgol Sul, yn eglwys St. Ioan, Betws Ifan, ac ‘r oedd y gwasanaeth a’r Ysgol Sul yn rhan anatod o Suliau’r teulu, a’r Pwnc bob Sulgwyn yn bwysig. Erbyn hyn mae Carys yn briod â Robert ac yn fam i Lisa sy’n un-ar-ddeg oed. Maent yn byw yn Adpar, Castell Newydd Emlyn.
Yn ei geiriau hi, dywed Carys, “mi glywais yr alwad i fod yn was i’r Arglwydd am sawl blwyddyn, cyn cyfaddef i mi fy hun “fod hyn ddim yn mynd i ffwrdd, a rhaid gwneud rhywbeth amdano” – felly rhaid oedd ymateb.” Fel canlyniad, bu’n gwasanaethu’n rhan amser yn Ardal Weinidogaethol Leol, Bro Teifi, yn ardal Aberteifi a’r Cylch, ond sylweddolodd nad oedd hyn yn ddigon, ac mai gwasanaethu’n llawn amser yn yr Eglwys, oedd yr ateb cywir. Erbyn hyn mae yng nghanol dilyn cwrs pedair mlynedd ar ddiwinyddiaeth, gan Athrofa St. Padarn, Caerdydd.
Cafodd ei hordeinio fel Diacon ym Mehefin 2019 yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi, pan oedd y Gadeirlan yn orlawn a phobol yn medru estyn llaw a chofleidio ei gilydd. Gwahanol iawn oedd y profiad pan gafodd ei hordeinio fel Offeiriad ar Ŵyl San Mihangel a’r Holl Angylion, ar y 29ain o Fedi 2020. “Roedd yn brofiad bendithiol, unigryw ac hanesyddol i ddweud y lleiaf,” medd Carys. “Roeddwn i gyd yn eistedd 2 fetr i ffwrdd oddi wrth ein gilydd â mygydau ar ein wynebau, a phobl wedi gwasgaru mewn swigod ar draws y Gadeirlan.”
“Hoffwn ddiolch o galon am gefnogaeth Wardeniaid a swyddogion y pum eglwys a ddaeth lawr i Dyddewi i’m cefnogi. Edrychaf ymlaen am gyfle i ddathlu pan ddaw rhwystredigaeth Covid19 i ben.”
Bu cychwyn gyrfa yng nghanol pandemig yn brofiad heriol tu hwnt iddi. Ond mae Carys yn berson positif a brwdfrydig, a’i bwriad (pan fydd y rheolau yn caniatau), yw dod yn gyfarwydd â’r ardal trwy dreulio amser yn y plwyfi, yn cyfarfod â chymaint o bobl â phosib, a chael cydweithio’n agos gyda’r ysgolion, y gwahanol gymdeithasau a phwyllgorau, a’r C.Ff.I. “Daw eto haul ar fryn” meddai, yn ffyddiog.
Mae hi a’r teulu’n edrych ymlaen i dreulio amser yn y Ficerdy yng Nghwmann, ond ar hyn o bryd, oherwydd ymrwymiadau teuluol, mae’n anodd symud i fyw’n llawn amser yno. Ond er hynny, mae hi yno yn y swyddfa (pan fydd y rheolau’n caniatau), bob dydd, ac yn annog unrhyw un sydd eisiau, i gysylltu unrhyw amser.