“Cyfle ola i weld y Ladis yn Llanbed.” Dyna oedd neges Ruth Jên Evans ar facebook heddiw. Mae arddangosfa Ruth Jên yng Nghanolfan Cwiltiau Jen Jones a agorodd ym mis Mawrth yn dod i ben yfory Dydd Sadwrn 13eg Mai.
Arlunydd yw Ruth Jên sy’n byw a gweithio yn yr hen siop esgidiau ym mhentref Tal-y-bont. Yn oriel 3 o hen adeilad Neuadd y Dref, mae’n arddangos ei gwaith chwareus o’r Merched Cymreig unigryw. Mae’r gwaith wedi’i ysbrydoli gan ddywediadau llafar, traddodiadau, diwylliant, a’r naws o fewn yr iaith Gymraeg.
Enw’r arddangosfa hon yn Llanbed yw ‘Dros ben llestri’. Dywed Ruth bod y rhan fwyaf o’i gwaith yn yr arddangosfa hon wedi’i ysbrydoli gan grochenwaith a llestri o Gymru, o gysylltiadau canoloesol Ystrad Fflur i’r casgliadau llestri traddodiadol ar ddreseri Cymreig, ac o bosibl ychydig o yfed te ‘dros ben llestri’!
Dyma ychydig o gefndir yr arlunydd: Astudiodd radd sylfaen yng Nghaerfyrddin cyn gwneud gradd celfyddyd gain yng Nghaerdydd gan arbenigo mewn argraffu. Dychwelodd wedyn i Aberystwyth a gweithiodd am gyfnod gyda’r Academi Gymreig a gwneud gwaith llawrydd ar gyfer cloriau llyfrau’r Lolfa. Ruth a baentiodd y murlun cyntaf yn Nhal-y-bont yn 1991, ar ochr hen adeilad y Lolfa.
Amdani felly gyfeillion. Os ydych yn hoffi celf o Gymru, dyma gyfle arbennig i werthfawrogi gwaith hollol Gymreig gan arlunydd cydnabyddedig.