Arweinyddes Côr Meibion Cwmann a’r cylch yn ymddeol.

Elonwy Davies yn rhoi’r gorau i arwain Côr Cwmann wedi 35 o flynyddoedd

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
7F5CCC84-D2A7-420D-B46F

Prynhawn ma, cyhoeddodd Côr Meibion Cwmann a’r cylch:

Yn dilyn penderfyniad arweinyddes Côr Meibion Cwmann a’r cylch i ymddeol yn 2024, rydym nawr yn chwilio am berson addas i’w olynu.

Mae’r côr yn ymarfer yn wythnosol yn Llanbed gyda rhyw 40 o aelodau brwdfrydig.

Os am sgwrs danfonwch ebost i corcwmann@gmail.com

Bydd Elonwy Davies o Lanybydder wedi cyflawni 35 o flynyddoedd fel arweinyddes i’r côr, ac mae Geraint Davies, cadeirydd y côr yn ddiolchgar iawn iddi.  Dywedodd Geraint:

“Mae Elonwy wedi gwneud gwaith arbennig o dda dros y blynyddoedd.  Gallen ni byth a bod wedi gofyn mwy ganddi.  Mae wedi edrych ar ôl ni fel côr yn dda.”

Ychwanegodd Geraint,

“Bu Elonwy yn gyson o ffyddlon i’r côr, heb golli fawr o ymarferion dros y blynyddoedd.  Rydyn ni i gyd mor falch ohoni.  Mae’n berson amhrisiadwy.”

Mae Elonwy ei hunan mor ddiymhongar, a chofia’r cyfnod 35 o flynyddoedd yn ôl yn iawn. Dywedodd,

“Arthur Roderick a Dewi Williams a ofynnodd i fi arwain y côr wedi i fi ddychwelyd o Lundain, a roedd hynny ond i fod am rai wythnosau tra bod Elwyn Davies yn derbyn triniaeth.  Ond dim fel’ny oedd hi.”

Mae Elonwy yn parhau i fod yn arweinyddes tan 2024 ac felly yn rhoi digon o gyfle er mwyn penodi arweinydd neu arweinyddes newydd.

Apelia’r côr felly am ymateb i’r cyhoeddiad uchod, a dywedodd Geraint,

“Mae niferoedd y cantorion yn parhau’n dda ac mae’r côr yn brysur trwy’r flwyddyn yn diddanu cynulleidfaoedd, felly os ydych yn adnabod rhywun a fyddai’n dymuno ymgymryd â’r her, cofiwch gysylltu.”