Balchder mawr i Anwen o Gellan

Anwen Butten wedi ei hurddo i’r wisg las

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
BA7066F5-64B9-4FB6-A250
9707A5C4-57FE-426F-926F

Ar ddydd Gwener urddwyd y fowlwraig cenedlaethol Anwen Butten i’r wisg las yng Ngorsedd Cymru.  Dywedodd Anwen,

“Adre ar ôl cwpwl o ddiwrnodau arbennig lan yn y Gogledd. Diolch i bawb sydd wedi danfon cyfarchion ar ôl i fi gael fy urddo i’r ‘Orsedd’ ddoe. Am ddiwrnod hyfryd ac mor falch i fy nheulu a ffrindiau fy mod wedi derbyn yr anrhydedd yma. Balchder mawr.”

Roedd Anwen i fod cael ei hurddo yn Eisteddfod Ceredigion y llynedd yr un pryd â Mary Davies ac Ann Bowen Morgan, ond cynhaliwyd Gemau’r Gymanwlad ym Mirmingham yr un pryd.  Hyfryd oedd gweld y llun uchod o’r dair yn eu gwisgoedd glas yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.

Cyhoeddwyd ar wefan Gorsedd Cymru,

Bowls sy’n mynd â bryd Anwen Butten, Llanbedr Pont Steffan, ac mae’r Orsedd yn falch o’r cyfle i’w hanrhydeddu am ei chyfraniad arbennig i’r gamp honno dros gyfnod o 30 mlynedd. Hi oedd Capten Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2022. Mae Anwen hefyd yn nyrs arbenigol cancr y pen a’r gwddf yn Ysbyty Glangwili, gan weithio ar draws ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Felly, llongyfarchiadau mawr Anwen a diolch am gynnwys enw dy bentref yn dy enw gorseddol sef Anwen o Gellan.