Yn y cyfnod cyn y tywydd gwlyb, gwelwyd beicwyr ifanc yn beicio ar hyd dref Llanbed ond mae cwestiynau wedi eu codi o ran pa mor ddiogel yr ydyn nhw ar yr heol. Yn ôl aelodau o’r cyhoedd, nid oes ganddynt olau o gwbwl wrth deithio yn y nos ac mae hyn yn peri pryder i drigolion Llanbed.
“Sai’n deall siwt mae rhieni yn caniatáu hyn”
Mewn neges ar Facebook, aeth aelod o’r cyhoedd i sôn bod “dim ohonnynt â golau” wrth i’r beicwyr deithio drwy’r dref.
Mewn ymateb i’r neges, medd sawl sylw bod gwell gweld y plant allan na tu fewn ar eu dyfeisiau technegol fel soniodd Julian Bransden, “Mae’n braf eu gweld allan, yn hytrach nag adref ar eu dyfeisiau, ond ie, rwyf yn pryderu am eu diogelwch”.
Dywedodd Dylan Lewis o Gwmann, fel sawl un arall a gafodd wersi beicio pan oedd yn yr ysgol,
“Mae’n hyfryd i weld ieuenctid yr ardal yn treulio’u hamser hamdden yn defnyddio’u beiciau. Dyma ddiwydiant sy’n tyfu yn lleol yn enwedig o feddwl bod siop feiciau newydd yn Llanbed. Ar y llaw arall mae’n fy nghythruddo i i weld bobl ifanc yn beicio ar y palmant ac yn beicio gyda’r nos heb oleuadau ar eu beiciau.”
“dysgu ieuenctid am ddiogelwch beicio”
Mewn ymteb i gais Clonc360 am ymateb Heddlu Dyfed Powys, meddant ei fod yn ofyniad cyfreithiol i gael golau blaen gwyn a golau cefn coch ar feic tra’n seiclo rhwng machlud haul a thoriad gwawr. Aeth ymlaen i ddweud nad oes hawl gan feicwyr seiclo ar y palmant ond nid yw’n drosedd.
Yn ôl yr Heddlu, gall beicwyr seiclo dau mewn rhes ac yng ynghanol y ffordd sydd wedi ei gyfeirio fel y lleoliad cynradd ac felly’r man mwyaf diogel. Esboniodd yr Heddlu mai dewis unigolyn yw hi i wisgo helmed ac nid yw’n ofyniad cyfreithiol.
“Rydym yn ymwybodol am ddigwyddiadau o’r fath, a gallaf gadarnhau bod y tîm Plismona Gymdogol wrthi yn cydweithio gydag ysgolion a’r gymuned gyda’r nod i addysgu ieuenctid am ddiogelwch beicio. Mae’r Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu (PCSO) wedi ymweld ag Ysgol Bro Pedr gyda siop feicio i ddarparu addysg, mae’r awdurdod leol wedi cynnal hyfforddiant seiclo hyfedredd ac mae’r Heddlu a’r Sir wedi cynnal hyfforddiant i ieuenctid dros yr Haf.
“defnydd diogel a chyfrifol o feiciau”
Mae’r Heddlu yn “annog defnydd diogel a chyfrifol o feiciau” ac yn galw ar rieni i “sicrhau bod gan ieuenctid yr offer diogelwch priodol fel helmedau a golau”. Maent yn annog unrhyw aelod o’r cyhoedd sydd â phryderon i gysylltu â nhw drwy:
– adrodd arlein
– galw 101
– siarad â’r swyddog lleol
Ychwanegodd Dylan,
“Slawer dydd roedd Llanbed yn adnabyddus am feicio diogel pan oedd yr heddwas Peter Hynd yn hyfforddi ieuenctid i gystadlu gyda ROSPA. Roedden ni’n gorfod Astudio Rheolau’r Ffordd Fawr, ymarfer beicio dros rwystrau a dysgu sut i feicio’n gywir ar strydoedd Llanbed. Roedd gennym falchder yn ein ffordd o feicio gan ennill cystadlaethau Cymru a’r Deyrnas Unedig. Dylai ein strydoedd fod yn fwy diogel nawr gyda chyfyngiadau cyflymder 20mya newydd. A fyddai’r heddlu lleol yn gallu ail gyflwyno gwersi beicio tybed?”