Mae’r amser o flwyddyn wedi dod eto i aelodau’r CFfI gamu i’r llwyfan ar gyfer cystadlaethau eisteddfod yr CFfI 2023!
Efallai bod hi’n arw ac oer tu allan ond cewch groeso cynnes wrth ddarllen y diweddaraf o glybiau Bro’r Dderi, Llanwennog, Llanddewi Brefi a Phontsian o’r Eisteddfod ar flog byw Clonc360.
Os eich bod chi’n mynychu’r eisteddfod ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid, cofiwch ychwanegu i’r blog byw- mae’n rhwydd!
Ar ddiwedd penwythnos o gystadlu gyda ChFfI Ceredigion hoffwn ddiolch am eich cefnogaeth i flog byw Clonc360.
Llongyfarchiadau i GFfI Felinfach am ennill Eisteddfod CFfI Ceredigion eleni. Pob lwc i bawb fydd yn cynrychioli’r sir yn gynydlaethol.
Y sgoriau terfynol:
10. CFfI Troedyraur
8. =CFfI Llanddewi Brefi a Thalybont
7. CFfI Tregaron
5. =CFfI Trisant a Llangwyryfon
4. CFfI Mydroilyn
3. CFfI Llanwenog
2. CFfI Pontsian
1. CFfI Felinfach
Canlyniadau ola’r cystadlu:
Canlyniad Deuawd / Triawd Doniol
1. Cai ac Ioan Felinfach
2. Elen,Elin a Dafydd Troedyraur
3. Siriol, Gwenyth a Richard Pontsian
Dangos eich doniau:
1. Tregaron
2. =Llangwyryfon a Llanwenog
3. =Pontsian a Mydroilyn
Cân Gyfoes:
1. Pontsian
2. Bro’r Dderi
Côr Cymysg:
1. Felinfach
2. Pontsian
Diolch yn fawr i ti Ifan am ohebu trwy gydol y dydd. Gwerthfawrogir dy waith yn fawr iawn.
Wrth i Eisteddfod CFfI Ceredigion ddirwyn i ben, y gystadleuaeth olaf yw’r corau ac mae yna ddau gôr yn cystadlu a’r cyntaf yw CFfI Pontsian.
Dau sy’n cystadlu yng nghystadleuaeth y Gân Gyfoes sef Sara Davies o glwb Pontsian ac Aron Dafydd o glwb Bro’r Dderi.
Canlyniad y Parti Unsain. Y darn gosod oedd ‘Cae o Ŷd’ ar canlyniad yw:
1. Llanwenog
2. Pontsian
3. =Troedyraur a Phenparc
Y nesaf i gystadlu yw Steffan Rees o glwb Pontsian yn gwneud stand-yp yng nghystadleuaeth ‘Dangos eich Doniau’.
Cystadleuaeth newydd ‘Dangos eich Doniau’ yw’r nesaf ar y llwyfan a dyma Llanwenog yn canu a chwarae’r Wcwlele.
I gloi cystadleuaeth y Ddeuawd neu Driawd Doniol yw Triawd Pontsian yn canu am raglen ‘Am Dro’ ar S4C.