Mae Gŵyl Fwyd Llanbed ar agor erbyn hyn. Cofiwch ddilyn y blog byw er mwyn cael blas o’r diwrnod. Ond os ydych chi’n mynd draw i dir y coleg, cofiwch rannu eich lluniau a’ch fideos yma.
Y gynulleidfa yn mwynhau ymuno yn y canu!
Côr Cwmann oedd yr olaf yn y babell perfformio gan roi gwledd i’r gynulleidfa.
Aeth Tlws Coffa Hag Harris am stondin orau 2023 i Gwella.
“Gwella” yw busnes Teulu Thomas,Llety’r Boda,Llanfarian ger Aberystwyth ac maent yn cynhyrchu cig oen a chig eidion wedi cwrio a’i goginio ar y fferm ar lannau Bae Ceredigion.
Diwrnod llwyddiannus iawn.
Canlyniadau’r dydd gan y Maer a’r Faeres.
Hwyl a bwrlwm Gŵyl Fwyd Llanbed!
Lluniau gan Martha Thomas
Elen a Marged a fu’n coginio heddiw.
Y gynulleidfa yn mwynhau.
Stondin lleol arall – Llaeth Llanfair
Stondin lleol – Hathren Brownies