Bwytewch a Byddwch Lawen yn Rhyng-gol Llanbed

Ble i fynd am fwyd yn Llanbed tra’n mynd i’r Eisteddfod Ryng-golegol eleni

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
IMG_8106

Bydd bwyd yn siwr o fod ar gael gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn ystod yr Eisteddfod Ryng-golegol y penwythnos hwn.  Ond beth am groesi’r ffordd i weld beth sydd ar gael yn nhref Llanbed?

Dyma addasiad o beth a ysgrifennodd Gethin Morgan am lefydd bwyta Llanbed bedair blynedd yn ôl:

Dros y penwythnos, bydd tyrfa o fyfyrwyr Cymraeg Prifysgolion Cymru yn heidio i Lanbedr Pont Steffan ar gyfer yr Eisteddfod Ryng-Golegol.

Fyddwch chi’n un o blith cannoedd o fyfyrwyr yn teithio i Lambed? Os felly, yn amlwg bydd yn rhaid i chi gael tamaid i fwyta rhyw ben! Byddwch chi’n falch o glywed (o ystyried ei bod hi’n dref fechan) bod yna doreth o fannau i fwyta ar wahân i ffreutur y coleg a’r undeb! Felly, i’r rhai ohonoch sy’n dod i Lambed, dyma gyflwyniad bach ar sut i lenwi’r bola ar gyfer penwythnos mawr.

Byddwch chi’n cyrraedd ar brynhawn Gwener ac mae’n bosib y byddwch eisiau rhywbeth i swper. Os byddwch chi eisiau rhywbeth cyflym, pam na ewch chi i’r enwog Lloyd’s sy’n gwerthu pysgod a sglodion (cludfwyd a bwyty) yn Stryd y Bont neu Oh My Cod ar y Stryd Fawr. Y ddau le yn cynnig bwyd da a chyflym.

Neu, gyda’r nos, os ydych yn teimlo fel eistedd a mwynhau gyda chriw o ffrindiau – pam na ewch chi i Shapla Tandoori (Indian), Stryd y Coleg; Ling di Long (Chinese), Stryd y Bont neu Canton Kitchen (Chinese), Y Stryd Fawr. Y tri lle yn cynnig lle i eistedd neu gludfwyd. Byswn i’n ddigon hapus awgrymu unrhyw un o’r tri lle fel rhywle i fwyta ar y Nos Wener (neu’r Nos Sadwrn ar ôl yr Eisteddfod, i ddathlu, efallai?) ymysg ffrindiau.

Mae Nehar (Indian), Stryd y Bont hefyd ar gael os ydych chi’n awyddus i gael cludfwyd Indian blasus. Maen nhw’n coginio popeth yn ffres, felly archebwch eich cyrri, ewch am beint i’r Nags Head drws nesaf a nôl i gasglu’r bwyd mewn llai nag awr.

A chyda’r hwyr ar ôl teithio o amgylch tafarndai Llambed – peidiwch anghofio mynd am dro i’r siop kebab chwedlonol – Oscar’s Den, Sgwâr Harford!

Ar ôl llond bolied (o fwyd neu gwrw) mae’n debyg y byddwch chi’n llwgu erbyn y bore Dydd Sadwrn. Yn lwcus i chi, mae llwythi o opsiynau! Os byddwch chi’n llwgu ac eisiau brecwast mawr am bris rhad ar gyfer y dydd, ewch i Gaffi Mark Lane, Stryd y Bont sydd tafliad carreg o neuadd yr Eisteddfod. Cewch bob math o fwyd yma am bris rhesymol – perffaith ar gyfer myfyrwyr!

Neu, os ydych chi’n teimlo fel bwyta rhywbeth llai, mae Hedyn Mwstard, Stryd y Coleg yn cynnig ciabattas a chacennau hyfryd (efallai ar gyfer toriad o’r Eisteddfod gyda’r prynhawn?). Bwyd digon tebyg i hyn sydd yn Town Hall Deli, Y Stryd Fawr.

Mae rhai caffis newydd yn Llambed hefyd, rhai nad ydwyf i’n bersonol wedi ymweld â nhw o’r blaen. Ond, mae nifer o bobl leol yn canu clodydd Granma’s Kitchen ac Artisians ar y Stryd Fawr.  Ac os taw bwyd llysieuol sy’n mynd â’ch bryd, dylech ymweld â chaffi Mulberry Bush uwchben y siop yn Stryd y Bont.

Felly, dyma ni, rhyw gyflwyniad i’r holl fannau yn Llambed lle mae modd cael tamaid i fwyta. Mae Llambed yn lle cyfeillgar iawn a dwi’n sicr bydd unrhyw un yn y caffis hyn yn barod i helpu (er, efallai na fyddant yn deall chi’r Gogs yn iawn!).  Rhaid gofyn am gawl yn lle lobsgóws, a lla’th yn eich te nid llefrith!  Bwytewch a byddwch lawen yn Llambed.

Marcos – Lle weddol newydd i brynu pizzas o bob math yn Stryd y Bont.

Minds Eye – Lle coffi eitha newydd yn Stryd y Bont.

Chompngo – Lle da am frecwast neu ginio ysgafn ar y Stryd Fawr.

Pantri – Wedi cau.

Conti’s – Ar gau dros y gaeaf.

Sosban Fach – Newydd gau.

Yn ogystal â’r uchod gellir prynu bwyd a diod yn y ddwy archfarchnad, sef Sainsbury’s a Co-op ac yn Siop y Gymuned – Premier ar y Stryd Fawr.

Gallwch lawrlwytho map Bwytai a Thafarnau Llanbed yma.