Ar y bysys!

Cyflwyno bysiau ac amserlen newydd i Orllewin Cymru

gan Ifan Meredith
E3B2DF80-64C0-4CE4-A40C

Mae’r bws newydd yn rhedeg yn gwbwl-drydanol

48EEF52F-D2CF-4EE8-A11C

Mae nodweddion ychwanegol i’r bws gan gynnwys man gwefru ffôn, botwm ‘aros’ a bwrdd

5FBDAE7E-86DD-48E5-9D56

Fel rhan o ymdrechion Traws Cymru i ail-frandio a bod yn rhan o Drafnidiaeth i Gymru, mae’r cwmni yn lansio llu newydd o fysiau gyda’r dechnoleg ddiweddaraf i wasanaethu taith y T1 rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin.

Yn bwysig i’r amgylchedd, mae’r bysiau newydd yma yn gwbwl-drydanol ac felly yn helpu cyrraedd nod Traws Cymru i fod yn Carbon-niwtral erbyn 2026. Mae’r newid yma yn dechrau o’r 26ain o Fawrth gyda bws newydd y T1 yn lansio bws ac amserlen newydd.

“Rydym yn edrych ymlaen at weld y bysiau trydanol newydd yn dod i’r gwasanaeth wrth wella profiad y cwsmer ac yn annog mwy o bobl i adael y car adref a dewis trafnidiaeth gyhoeddus” – James Price, Prif-weithredwr Trafnidiaeth i Gymru.

Mi fydd yna 8 fws yn y gylchred ac felly byddant yn rhedeg un daith o Gaerfyrddin i Aberystwyth a nôl i Gaerfyrddin er mwyn gwefru. Mi fydd First Cymru yn parhau i redeg y wasanaeth ar ran Traws Cymru.

“Mae gan fysiau rôl bwysig a chyffrous i chwarae wrth i Gymru barhau i symud at deithio mwy cynaliadwy” – Chris Hanson, Rheolwr Cyffredinol, First Cymru.

Fel rhan o newidiadau i’r amserlen, gwelir gwasanaeth y T1 yn rhedeg drwy Lanbed bod awr. Nawr, bydd modd gweld le mae eich bws wrth edrych ar ap newydd Traws Cymru.