Cael house party heb ofyn i fy rhieni!

Morgan James, Mark Lane sy’n ateb cwestiynau “Cadwyn y Cyfrinachau” yn rhifyn Mehefin Clonc

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
CED9EC0B-E350-4DBD-873E

Gweithio i National Grid y mae Morgan James ond mae e’n fwy adnabyddus am berthyn i deulu Caffi a Phopty Mark Lane, Llanbed.  Fe welwch chi e weithiau yn cynorthwyo gyda systemau sain mewn gigs a digwyddiadau cyhoeddus ac ymfalchïa hefyd o chwarae rygbi i Lambed.

Dyma flas i chi o’i ymatebion yng ngholofn “Cadwyn y Cyfrinachau” rhifyn mis Mehefin Papur Bro Clonc.

Beth oedd y peth ofnadwy wnest ti i gael row gan rywun?
Cael house party heb ofyn i fy rhieni!

Taset ti’n fisged, pa fath fyddet ti a pham?
Digestive – plain and simple.

Sut mae’r Coronafeirws wedi effeithio dy fywyd di?
Colli gwaith yn y byd technegol.

Taset ti’n anifail, pa anifail fyddet ti a pham?
Goldfish achos bod wastad syched arna i.

Beth oedd yr eiliad balchaf i ti’n broffesiynol?
Cael fy swydd bresennol.

Ac yn bersonol?
Llambed yn ennill y gynghrair eleni.

Pwy yw’r person enwocaf ar dy ffôn symudol?
Elfan James.

Er mwyn darllen ei atebion i gyd, mynnwch gopi o rifyn Mehefin Papur Bro Clonc sydd ar werth mewn siopau lleol ac fel tanysgrifiad digidol ar y we.