gan
Bethel Parc-y-rhos
Lluniau gan Terry Davies
Cynhaliwyd Taith Gerdded er mwyn codi arian tuag at ddioddefwyr daeargrynfeydd Syria a Thwrci ar y 26ain o Fawrth. Daeth rhyw hanner cant o bobl ynghyd tu fas capel Bethel erbyn 10 o’r gloch y bore lle croesawyd pawb gan Cyril Davies. Cyflwynwyd y weddi gan y Parchedig Carys Hamilton cyn dechrau ar daith 3 milltir hamddenol o gwmpas Parc-y-rhos.
Cafwyd paned a chacen wedyn ar ddiwedd y daith nôl ym Methel lle cyhoeddwyd cyfanswm yr arian a godwyd. Erbyn hyn mae’r cyfanswm yn £1,500. Bydd y llyfrau yn aros ar agor am wythnos pe hoffai unrhyw un arall gyfrannu.
Diolch yn fawr i bawb a gefnogodd yr achlysur, yn gerddwyr, stiwardiaid, gweinyddwyr lluniaeth ac i bawb a roddodd tuag at yr achos.