Clonc360 : y wefan fro gyntaf i gyrraedd 2,000 o straeon

Gwefan fro Clonc360 wedi cyhoeddi 2,000 o straeon gan ein bro, am ein bro.

gan Ifan Meredith

Mewn cynllun ar y cyd rhwng cwmni Golwg a Phapur Bro Clonc, lansiwyd gwefan fro newydd, Clonc360 yn 2015. Ers hynny mae’r wefan wedi datblygu ac yn denu mwy o gyfranwyr i’r wefan er mwyn gallu rhoi’r straeon sydd o bwys i chi, y darllenwyr.

Yn dilyn llwyddiant y peilot, yn 2019 lansiwyd cynllun newydd gan Golwg er mwyn sefydlu rhwydwaith Bro360- rhwydwaith o wefannau bro ledled Cymru sydd yn darparu gwasanaethau newyddion digidol i gymunedau drwy gyfrwng y Gymraeg. Caiff y cynllun ei ariannu gan raglen Pawb a’i Le- Cronfa Gymunedol y Loteri ar hyn o bryd.

“cynnig newyddion cyflym a lleol iawn”

Medd Elin Jones AS bod Clonc360 “yn cynnig newyddion cyflym a lleol iawn.” Aiff ymlaen i grybwyll pwysigrwydd i dderbyn pob math newyddion gan bwysleisio bod y “lleol llawn mor bwysig â’r cenedlaethol a’r rhyngwladol. A derbyn newyddion yn y Gymraeg yn bwysicach fyth.”

“Erbyn hyn ar fy ffôn yr ydw i yn derbyn ac yn darllen y rhan fwyaf o fy newyddion – a dyna sy’n greiddiol i lwyddiant clonc360 – mae ar gael i fi le bynnag ydw i, gan fod fy ffôn gyda fi ym mhob man!”

“esiampl wych i ddangos beth sy’n bosib gyda llwyfan straeon lleol”

Mae Lowri Jones, Pennaeth Datblygu a Phrosiectau cwmni Golwg yn llongyfarch y wefan ac yn mynd ymlaen i ddiolch i “waith caled cymaint o ohebwyr bro – pobol leol o bob oed sy’n gweld cyfle, sgwennu, tynnu lluniau, cyfweld, cyfrannu hanesion mudiadau, rhoi sylw i ddigwyddiadau, golygu, ysgogi, a mynd ati i wneud rhywbeth positif er mwyn eu bro.”

Yn Ionawr 2021, cyhoeddodd y wefan fro hon, Clonc360 y 1,000 fed stori ac mewn erthygl ar Golwg360, geiriau Ben Lake AS oedd “Ymlaen i’r 1,000 nesaf” ac yn wir, dyma beth sydd wedi digwydd, carreg filltir arall i’r wefan wrth iddi gyhoeddi’r 2,000fed stori- y wefan fro sy’n rhan o rwydwaith Bro360 gyntaf i wneud hynny.

“llawer tlotach heb y gwasanaeth hwn yn yr oes ddigidol.”

Wrth sôn am ddatblygiad y wefan yn y blynyddoedd diwethaf, medd Cadeirydd Papur Bro Clonc ac un o olygyddion Clonc360, Dylan Lewis, “Y datblygiadau diweddaraf yw Calendr Clonc360 a Blogiau Byw o ddigwyddiadau lleol lle mae cyfle i fynychwyr ychwanegu lluniau, fideos a chanlyniadau fel maen nhw’n digwydd.”

“Rydym yn falch o fod yn rhan o gynllun Bro360 gan dderbyn cefnogaeth ddigidol a chydweithrediad swyddogion a gwefannau bro eraill. Rydym hefyd yn gwerthfawrogi Grant Cronfa Goffa Dr Dewi Davies sy’n galluogi gohebwyr i gyhoeddi newyddion lleol caled a’r cyfan yn Gymraeg ac er lles y gymuned yr ydym yn byw ynddi.”

Aeth ymlaen i sôn ei fod yn “ymhyfrydu bod 2,000 o straeon wedi eu cyhoeddi ar wefan Clonc360 erbyn hyn.”

Y 2,000fed stori oedd cyfres o gyfweliadau gyda chwaraewyr Coetiau ym mhencampwriaeth Brydeinig yn Llanybydder gan Gwyneth Davies.

Daw’r newyddion yma ar benwythnos prysur yn ardal Clonc360 gyda Eisteddfod RTJ Llanbed yn cael ei chynnal ddoe ac yfory, heb anghofio ‘Llais Llwyfan Llanbed’ heno ac mae Clonc360 yn falch i ddod â’r diweddaraf o’r digwyddiadau yma felly cofiwch eu dilyn ar wefan fro Clonc360.