Codi arian wrth ddathlu cerddoriaeth.

Cynnal noson i ddathlu cerddoriaeth yn Eglwys San Pedr gan godi dros £2,200. 

gan Ifan Meredith
IMG_1716
IMG_1714
620d740c-0468-4af8-9275-9379317d7cf6
bf231790-6bcc-4b1f-9f10

Llywydd y noson, Mr Ben Lake

Cafwyd noson wefreiddiol i ddathlu gwasanaeth 40 mlynedd Elonwy Pugh Huysmans a Debera Davies yn chwarae’r organ yn Eglwys San Pedr wrth godi arian at elusen Cancr y Fron nos Wener ddiwethaf.

Yn gyfeilyddes brysur iawn yn cyfeilio i Gôr Cwman, Côr Pam Lai? a Voci Gallesi, roedd gan Elonwy y cysylltiadau i gyd i gynnal cyngerdd llwyddiannus.

Llywydd y noson oedd AS Ben Lake a soniodd am ei brofiadau o siarad yn gyhoeddus yn yr Eglwys a bod yn rhan o’r Ysgol Sul gydag Elonwy, Sandra Jones a’r diweddar Janet Rees wrth y llyw.

Llwyddwyd i godi dros £2,200 tuag at elusen Cancr y Fron sy’n gweithio’n ddiwyd i leihau a gwaredu effeithiau Cancr y Fron sydd yn achosi marwolaeth dros 5,500 o bobl yn y Deyrnas Unedig yn flynyddol.