Croesawyd pawb i Gymanfa Salm, Côr a Chân ym Methel Parc-y-rhos gan Cyril Davies. Dechreuodd drwy gydymdeimlo â Wynne a Mary Davies a’r teulu o golli mab, sef Aled, a fu farw’n annisgwyl yn ddiweddar gan fynegi syndod pawb o glywed y newyddion trist. Yna cyflwynodd Gôr Pamlai ynghyd â Sara Davies, arweinydd y côr, Elonwy Pugh-Huysmans, y cyfeilydd a Kees Huysmans yr unawdydd.
Soniodd Cyril am yr elusen a ddewiswyd sef Ambiwlans Awyr Cymru gan ddweud pa mor hanfodol yw’r gwasanaeth hwn i ni yng nghefn gwlad. Cyfeiriodd hefyd at y ffaith bod Ambiwlans Awyr Cymru yn bwysig i ni ym Methel oherwydd galwyd am ei gymorth angenrheidiol yn ystod y flwyddyn.
Cafwyd canu cynulleidfaol da dan arweiniad Sara gydag Elonwy wrth yr organ. Cyflwynwyd rhaglen y côr gan Hywel Roderick. Canodd aelodau’r côr dair cân yn yr hanner cyntaf a thair cân yn yr ail hanner ac fe swynwyd y dyrfa luosog gan eu lleisiau cyfoethog.
Unwadwyr y noson oedd Kees Huysmans a Sara Davies a braf oedd gwrando arnynt yn diddanu, gyda’r ddau yn enillwyr prif wobrau mewn eisteddfodau cenedlaethol.
Darllenwyd detholiad o salmau yn cyfeirio at y gân gan Elin Lewis, arweinwyd y weddi gan Dylan Lewis a darllenodd Megan Lewis Salm 150.
Salm 150
Molwch yr ARGLWYDD.
Molwch Dduw yn ei gysegr,
Molwch ef am ei weithredoedd nerthol,
Molwch ef am ei holl fawredd.
Molwch ef â sain utgorn,
Molwch ef â thannau a thelyn.
Molwch ef â thympan a dawns,
Molwch ef â llinynnau a ffliwt.
Molwch ef â sŵn symbalau,
Molwch ef â symbalau uchel.
Bydded i bopeth byw foliannu’r ARGLWYDD.
Molwch yr ARGLWYDD.
Cyhoeddwyd yr emynau gan Cyril Davies, Bethan Thomas ac Eira Price. I gloi’r noson, traddodwyd y fendith gan y Parchedig Carys Hanilton.
Eric Williams oedd yn gyfrifol am y cyhoeddiadau a diolchodd i’r côr, yr arweinydd, cyfeilydd, unawdwyr ac i bawb a gymerodd ran. Cyflwynwyd blodau i Sara ac Elonwy gan Dafydd Lewis a Cerdin Price ar ran aelodau Bethel. Diolchodd Eric hefyd i Gwen Jones am y blodau, i Dylan Lewis am wneud y rhaglen, i Gôr Cwmann am fenthyg yr organ, i’r aelodau a fu’n paratoi bwyd i’r côr ac i bawb am eu cyfraniadau ariannol.
Wedi’r gymanfa, bu Elma Phillips y trysorydd yn cyrfi’r rhoddion a hyfryd yw cyhoeddi bod y cyfanswm wedi croesi £1,000. Pe hoffai unrhyw un arall gyfrannu, cysylltwch â’r trysorydd o fewn wythnos os gwelwch yn dda.
Ceir blas o’r noson yn y fideo hwn a ffilmwyd gan Carys Lewis, Dylan Lewis ac Elma Phillips.