Cofio Trevor (Peregrine) Y Botanegwr Brwd

Collwyd un o drigolion adnybyddus a diddorol Llanbed yn ddiweddar

gan ELERI THOMAS
TREVOR-A-AVRIL

Trevor ac Avril 2021

Trevor-yn-graddio

Trevor yn graddio Prifysgol Cymru Aberystwyth

Trevor-ac-Avril-1958

Priodas Avril a Trevor

Blodau-angladd-Trevor-

Blodau i gofio Trevor sy’n adlewyrchu ei frwdfrydedd am blanhigion o bob lliw a llun.

Collwyd un o drigolion adnybyddus a diddorol Llanbedr Pont Steffan, yn ddiweddar sef Mr Trevor Peregrine neu Trev, i’w ffrindiau.

Yn enedigol o Landeilo, Sir Gâr, taniwyd ei ddiddordeb mewn planhigion yn  ei arddegau wrth dyfu llysiau a’u gwerthu mewn marchnadoedd awyr agored y dref.   Arweiniodd hyn at ddyfarniad gradd BSc ac yna MSc yn y maes Patholeg Planhigion ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ac yna i swydd ym Mridfa Planhigion Cymru, Aberystwyth.

Ym 1958 priododd ag Avril o Landdewi-brefi, Tregaron. Cynhaliwyd y parti prodas yng Nghwesty’r Marine, Aberystwyth a Beti’n forwyn-briodas sef cyfaill gydol oes Avril, o Landdewi-brefi ond bellach o Lanbedr Pont Steffan a Drefach, Llanwenog.  Yn ogystal, cofiodd cyfaill gydol oes Trevor, sef JB (Hafod, Llanybydder) ond yn wreiddiol o Benygroes, Rhydaman, a fynychodd y briodas, o’r amser hynny, pan iddo ddal trên o Gaerfyrddin i Aberystwyth, llinell a gerddodd y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn yr wythnos diwethaf yn yr ymgyrch i ail-agor y rheilffordd i gysylltu  De a Gogledd Cymru.

Ym 1961 mentrodd Trevor ac Avril dramor ac ymgartrefu’n y lleoliadau canlynol tan 1992: Tanzania, Malawi, Brunei ym Morneo a Bhutan.

Fel patholegydd planhigion, estynnodd Trevor help llaw i  ffermwyr ar gyfer tyfu cnydau megis reis, te, india-corn, tatws melys, ffa, bananas, milet a siwgr a datblygu dulliau o atal a thrin clefydau planhigion.

Tyfodd 5,400 o wahanol rywogaethau o blanhigion ym Mhwtan. Tipyn o sialens felly i Trevor!

Teimlasant wrth eu bodd yn byw a gweithio’n y gwledydd hyn. Yn eu barn hwy, ymweld â gwledydd y byd, oedd yr addysg orau bosib ac yn wir yn ehangu gorwelion.

Dysgodd y ddau’r iaith, Swahili yn Tanzania ac yn rhugl o fewn 6 mis!  Wrth siarad Iaith y wlad profwyd agosatrwydd at drigolion a’u diwylliant.

Er eu bod dramor cyhyd dychwelasant i’w cartref yn Fronfelen, Silian gydai’u merch Eleri, adeg gwyliau. Dyledus oeddynt i drigolion Silian am gadw llygad ar eu heiddo pan oddi cartref.

Cyd-deithiodd eu hanifeiliaid anwes, sef cŵn a chathod â hwy dramor i gynnwys William y gath, a gerddodd mewn i’w bywyd, yn llythrennol, i Fronfelen, pan oedd pioden yn ei nychu.  Roedd Avril o’r farn mai sipsiwn a theithwyr anghofiodd amdano pan symudon nhw ymlaen o dir Comin Silian. Bu William y gath fyw tan iddo gyrraedd 20 mlwydd oed gan weld y byd ond wedyn, efallai, roedd teithio’n ei waed.

Ar ôl dychwelyd i Gymru yn barhaol ym 1992 mwynhasant fywyd pentrefol Silian i gynnwys digwyddiadau cymunedol dan ofal y Dr Neville (Davies).

Yn ddiweddarach, symudon nhw i Lwyncelyn Bach, Cwmann cyn ymgartrefu’n ardal Penbryn, Llanbedr Pont Steffan ym 2008.

Hoff bwnc trafod Trevor oedd Newid Hinsawdd a siaradodd ar Radio Cymru  ac i grwpiau cymunedol am y testun a’u hanturiaethau i gynnwys  yr adeg pan ddringodd  y ddau ohonynt y mynydd Kilimanjaro.

Pleser oedd beirniadu’r  Gystadleuaeth “Llambed yn ei Blodau,” (Lampeter in Bloom) a threfnwyd gan Mrs Tricia Carter ac ymweld â gerddi hardd y dref. Tasg anodd, dywedodd Trevor,  oedd dewis y goreuon!

Holl-bwysig oedd cadw’n heini ac roedd Trevor yn ymwelydd cyson â Phwll Nofio Llambed, Campfa Llanbedr Pont Steffan a chwarae sboncen ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan.

Yn ei arddegau byddai’n aml yn seiclo o Landeilo i Benygroes (Rhydaman) i ymweld â’i gyfaill gydol oes, JB, ac yna seiclo’n ôl i Landeilo.

Hyd yn oed yn ystod ei fisoedd olaf parhau oedd Trevor i gerdded yn feunyddiol o Benbryn i Archfarchnad Sainsbury ond yn dal Tacsi Heneghan yn ôl bellach.

Er gwaethaf heriau iechyd yn ei flynyddoedd olaf, llwyddodd Trevor i gadw  agwedd bositif a’i feddwl mor graff ag erioed.

Cynhaliwyd Gwasanaeth Coffa urddasol yng Nghapel y Gorwel, Stryd y Bont, Llanbedr Pont Steffan dan ofal y Parch Bill Fillery ar y 27ain o Fedi 2023.

Darllenwyd Death is nothing at all gan Henry Scott, gan ei ferch, Eleri .

The Life that I have gan Leo Marks oedd dewis Avril.

Yn y cefndir chwaraewyd ei hoff ddarn o gerddoraieth sef Fantasia ar gyfer Piano, Cytgan a Cherddorfa, gan Beethoven.

Mwynhawyd  lluniaeth bendigedig yn ddiweddarach yn y Goedwig, Llanbedr Pont Steffan.

Mae ein meddyliau gydag Avril, Eleri, wyrion, Dylan ac Anouk, aelodau pellach o’r teulu a’i ffrindiau.  Yn sicr bydd bwlch ar ei ôl!

“Mae bywyd yn golygu popeth ei fod erioed wedi golygu.

Mae yr un peth ag y bu erioed.

Mae parhad llwyr a di-dor.

Beth yw’r farwolaeth hon ond damwain ddibwys?

Pam ddylwn i fod allan o feddwl oherwydd fy mod i allan o’r golwg?

Nid wyf ond yn aros amdanoch, am egwyl,

rhywle yn agos iawn,

rownd y gornel.

Marwolaeth yn Dim o gwbl gan Henry Scott Holland “