Taith gerdded Elfed o Fangor trwy Lanbed i Gaerdydd

Codi ymwybyddiaeth o’r rheilffordd goll rhwng Gogledd a De Cymru

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
IMG_6948

Molly, Rhys, Elfed, Shân, Robert a Selwyn

IMG_6963

Hedd, Shân, Elfed a Rhys

IMG_6964

Elfed gyda hen bont y rheilffordd dros y Teifi y tu ôl iddo

A welsoch chi Elfed ar ei daith gerdded o Aberystwyth i Lanbed ddydd Gwener 22ain Medi? Mae taith y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn o Drawsfynydd, Gwynedd, yn dilyn coridorau rheilffyrdd Afon Wen, y Cambrian, Aberystwyth i Gaerfyrddin a llinell y Great Western i Gaerdydd.

Cychwynodd ei daith ym Mangor gyda’r bwriad i gerdded 230 o filltiroedd o Fangor i Gaerdydd i dynnu sylw at yr ymgyrch i ail-agor y rheilffyrdd rhwng De a Gogledd Cymru. Mae ei daith hefyd yn codi ymwybyddiaeth o’r angen am well rhwydwaith o drafnidiaeth gyhoeddus ar draws Cymru.

Cyrhaeddodd Elfed Llanbed tua 5.00 o’r gloch prynhawn Gwener gyda Hedd o Lanon yn gwmni iddo. Cyfarfu gyda’r Maer, Y Cynghorydd Rhys Bebb Jones a’r Faeres, Shân Jones, wnaeth cyd gerdded gydag ef rhan ola’r daith i Lanbed. ’Roedd Robert a Molly Blainey a’r hanesydd lleol Selwyn Walters yno hefyd i gyfarfod gydag Elfed ar y bont dros y Teifi.

Gwelir yn glir o’r bont yr hen bont rheilffordd sy’n croesi’r afon. Eglurodd Selwyn Walters i’r bont honno gael ei hadeiladu yn 1911 ac i’r trên olaf yn cludo teithwyr fynd trwy Llanbed yn 1965. Mi wnaeth trenau masnachol, megis y trenau yn cludo llaeth o Ffatrioedd Llaeth Pont Llanio a Felinfach, barhau i ddefnyddio’r  rheilffordd hyd 1973, pryd cafodd ei chau yn llwyr.

Cewch mwy o hanes y daith ac ymgyrch Traws Link Cymru yn y cyfweliad fideo gydag Elfed. Dymunwn yn dda i Elfed gyda gweddill ei daith i Gaerdydd.