Beth yw eich barn am y coroni wrth i Lanbed baratoi at y dydd mawr?

Ar drothwy’r coroni, sut fyddai yn effeithio ar dref Llanbed dros y penwythnos?

gan Ifan Meredith

Yfory, bydd Brenin Charles III yn cael ei goroni ac mi fydd penwythnos hir arall i ddynodi hyn. Yn nhref Llanbed, dangoswyd baner i ddynodi’r digwyddiad drwy ddydd Gwener (5.5.23) ar drothwy’r coroni.

“Mae hanes nawr wedi symud ymlaen…”

Dyma faner a arddangoswyd ar Neuadd y Dref tan 5:30yh nos Wener. Dyma faner a chafodd ei chwifio ar ddigwyddiad coroni’r Frenhines Elisabeth II yn 1953 ac ar ôl bron 70 mlynedd o aros, ailymddangosodd y faner i ddynodi coroni’r Brenin Charles III.

Yn ogystal, mae unedau ledled y dref wedi eu haddurno er mwyn dathlu’r newidiad yn y Teyrn.

Siop Calico Kate
Y Pantri
Caffi Artisan
Steffan Vets
Fferyllfa Adrian Thomas
J.H. Roberts ali Feibion

Mi fydd rhai siopau yn Llanbed ar gau yn sgil hyn gyda rhai yn cau ddydd Sadwrn yn unig a lleill ynghau ddydd Llun hefyd.

Dyma ambell siop fydd ar gau heddiw:

Y Stiwdio Brint

Gwilym Price ei feibion a’i ferched

Bargain Box

Calico Kate

Y Becws

Ar y llaw arall, mae rhai siopau a gwasanaethau yn parhau yn agored megis Mark Lane, Duet, Lan Llofft, DL Williams, Creative Cove ac Adrian Thomas.