Ers dydd Llun, 06 Tachwedd 2023, cyflwynwyd rheolau newydd ar Safleoedd Gwastraff Cartref Ceredigion gan gynnwys Safle LAS yn Llanbed.
Un o’r newidiadau mwyaf yw’r posibilrwydd y bydd y gweithwyr yn gofyn i’r sawl sy’n defnyddio’r gwasanaeth am brawf eu bod yn byw yng Ngheredigion.
Cyflwynir y newid hwn am fod y safleoedd hyn ar gyfer trigolion sy’n talu Treth y Cyngor yng Ngheredigion. Er mwyn profi eich bod yn byw yng Ngheredigion, bydd angen dangos dogfen swyddogol sy’n cynnwys enw a chyfeiriad e.e. bil Treth y Cyngor, bil cyfleustodau neu drwydded yrru.
Ond beth am breswylwyr sy’n byw yn ardal Llanbed a Llanybydder ond ar ochr arall yr afon Teifi yn Sir Gaerfyrddin? A fydd angen i bobl Cwmann, Pencarreg, Llanybydder a Llanllwni fynd â’u gwastraff bob cam i Gaerfyrddin neu Rydaman?
Mae’r newidiadau i reolau’r Safleoedd Gwastraff Cartref Ceredigion hefyd yn cynnwys canllawiau cliriach ynglŷn â’r deunyddiau y gellir eu gadael ar y safleoedd ynghyd â’r cyfyngiadau sy’n bodoli ar gyfer rhai deunyddiau.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy fynd at y dudalen Safle Gwastraff Cartref ar wefan y Cyngor: www.ceredigion.gov.uk/saflegwastraffcartref
Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet dros Briffyrdd a’r Gwasanaethau Amgylcheddol:
“Mae’r Safleoedd Gwastraff Cartref yn gyfleusterau gwerthfawr iawn. Mae angen i ni sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio’n iawn ac yn gyfreithlon gan bawb sydd â’r hawl i’w defnyddio nhw. Bydd y newidiadau a gyflwynir o gymorth i wneud hyn a byddant hefyd yn sicrhau ein bod ni’n ymdrin â’r gwastraff sy’n cael ei adael ar y safleoedd yn y ffordd fwyaf effeithlon yn ariannol ac yn amgylcheddol. Fel rhan o ymgyrch Caru Ceredigion, hoffem ddiolch i drigolion y sir am gydweithio â ni wrth i ni gyflwyno’r newidiadau hyn a fydd o fudd i’n cymunedau a’r amgylchedd.”
Wrth siarad â gweithwyr yn Safle Gwastraff Cartref Llanbed ddoe dywedwyd y byddant dal i dderbyn gwastraff y gellir ei ailgylch gan preswylwyr Ceredigion a Sir Gâr, ond ni dderbynnir gwastraff mewn bagiau duon gan breswylwyr Sir Gâr.