Ar ôl sawl llwyddiant i ardal Clonc360, mae Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin yn un i’w chofio am nifer o resymau gyda miloedd wedi tyrru i fwynhau “haul, hwyl a chystadlu” yr eisteddfod. Ceredigion oedd yn fuddugol ar dabl y medalau ar ddiwedd y cystadlu.
“Anodd iawn yw mynegi pa mor browd dw i’n teimlo. Plant a phobl ifanc Ceredigion, chi wir yn SÊR. Diolch, diolch, diolch i bob un ohonoch chi, boed yn blentyn, yn berson ifanc, yn riant/gwarchodwr, yn athro neu’n wirfoddolwr – heb eich ymrwymiad a’ch gwaith caled chi ni fyddai’r dlws sbesial hon yn dod nôl gyda ni i Geredigion.” – Caryl Griffiths, Urdd Ceredigion.
Yn dilyn cymorth ariannol o £150,000 gan Lywodraeth Cymru, croesawyd 9,000 o deuluoedd incwm isel i Sir Gaerfyrddin. Llwyddodd yr eisteddfod hefyd i gynnig llwyfan i bawb ac felly 3,100 o seddi ar draws yn pafiliynau.
“dysgu sgiliau ac ennill profiadau bythgofiadwy.” / Diolch am y “croeso arbennig”
Diolchodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a’r Celfyddydau yr “holl athrawon ac arweinyddion am eu hymroddiad arbennig ers misoedd yn paratoi ac hyfforddi ein plant a phobl ifanc”.
Serch ymateb amhoblogaidd ymysg y cyhoedd a rhai diwygiadau yn rhannu barn ar y cyfryngau cymdeithasol, mae’r Urdd yn dal i gefnogi’r syniadau newydd yma.
“yn falch o gynnig ardaloedd a chystadlaethau newydd ar hyd y Maes eleni, gan gynnwys cystadleuaeth i gorau cynradd i ddysgwyr, ardal Cwiar na Nog i ddathlu a chefnogi’r gymuned LHDTC+ ac ardal dawel Nant Caredig i’r rhai oedd angen pum munud o seibiant o fwrlwm y Maes.”
Cartref Eisteddfod yr Urdd 2024 yw Maldwyn a gynhelir rhwng y 27ain o Fai a’r 1af o Fehefin.
Os ydych yn gweld eisiau Eisteddfod yr Urdd eleni yn barod, gallwch ddal holl gyffro’r maes ar flogiau byw diwrnodau’r Eisteddfod sy’n cynnwys fideo uchafbwyntiau’r dydd hefyd.