Diffyg cyhoeddusrwydd i ddigwyddiadau lleol

Pam nad ydym yn gallu denu ymwelwyr i bethau sydd ymlaen gyda ni?

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
81763AF1-F080-4A21-8A64

Stondin Forget Me Knots & The Craft Fairy yn y Ffair Grefftau yn y coleg.

1E5CF10F-EDAE-441C-A3CD

Llun gan Liza Roberts.

6ED19DE7-8128-49B3-87E8

Llun gan Liza Roberts.

“Faint ohonoch oedd yn gwybod bod ffair grefftau ymlaen yn y Brifysgol ddydd Sadwrn?” Dyna a ofynnodd Enid Heneghan o gwmni tacsi NickH ar facebook ddoe.

Mae Enid yn codi’r cwestiwn a ydyn ni’n rhoi digon o gyhoeddusrwydd i ddigwyddiadau lleol er mwyn tynnu ymwelwyr i gymryd rhan ynddynt yn yr ardal.

Dywedodd Enid “Roeddwn i ond yn gwybod am y ffair oherwydd es i â chwpl o weithwyr stondin yno yn y tacsi. Nid oedd y naill na’r llall yn sicr i ble’r oeddent i fod i fynd, ac roedd yr arwyddion yn ddigon garw.  Roedd baner fawr wrth y brif fynedfa ar Stryd y Coleg, ond dim arwydd o ble roedd y ffair grefftau ei hun yn cael ei chynnal.”

Ychwanegodd Enid, “Roedd llawer o dwristiaid a phobl leol a allai fod wedi bod â diddordeb yn y ffair grefftau wedi eu gadael mewn penbleth a rhwystredigaeth oherwydd diffyg arwyddion ar gyfer y lleoliad.”

Pam felly nad ydym yn llwyddo i hyrwyddo digwyddiadau lleol yn ddigon amlwg?  Awgryma Enid “Dylai trefnwyr feddwl am hysbysebu ac arwyddion. Rwy’n gwybod nad yw Llanbed yn fawr iawn, ond os ydym am i bobl ddod i ddigwyddiadau, yna mae angen llwyth o arwyddion ar gyfer y lleoliad – a dweud y gwir po fwyaf o arwyddion, gorau oll. Mae hyn yn cynnwys digwyddiadau rhedeg, digwyddiadau beicio, ralïau modur – mewn gwirionedd, unrhyw beth a allai ddenu pobl i Lanbed.”

Mae Enid yn llawn canmoliaeth o drefniadau’r Eisteddfod Genedlaethol y llynedd ac yn credu y dylem ddilyn y gweithdrefnau a oedd ganddynt.  “Roedd yr Eisteddfod yn Nhregaron wedi llwyddo. Roedd ’na hysbysebion ar bopeth, ac arwyddion yn pwyntio’r ffordd i’r Maes. Mae angen inni fod mor ddeallus â hynny, a hyrwyddo popeth sy’n digwydd yn ardal Llanbed.”

Mae’n wir bod gwybodaeth am y Ffair Grefftau ar facebook.  Rhannodd Liza Roberts hyn er enghraifft:

Peidiwch ag anghofio am y Ffair yn Neuadd y Celfyddydau PCYDDS a’r ystafelloedd heddiw rhwng 10am a 5pm.

Llawer o stondinau hyfryd, gan gynnwys cacennau, nwyddau harddwch, gemwaith, eitemau llesiant ac ati.

Archebwch ddarlleniad gyda’n darllenwyr anhygoel a thriniaeth gyda’n therapyddion.

Mae angen tipyn mwy na hynny wrthgwrs er mwyn denu ymwelwyr i’r ardal.  Mae modd defnyddio gwefannau fel Clonc360, gwefannau cymdeithasol, Papur Bro Clonc, cyfryngau Cymraeg a Saesneg yn ogystal ag arwyddion a phosteri amlwg yn lleol ac mewn ardaloedd cyfagos.  Ond a oes cyllid ar gael i gynorthwyo mudiadau lleol er mwyn sicrhau hyn?

Cafwyd ymateb gan gynrychiolydd Julida Fayres y cwmni o Sir Benfro a drefnodd y Ffair ar ddydd Sadwrn.

“Aeth y ffair yn dda oherwydd yr hyrwyddo a ddarparwyd gennym (papur newydd, cyfryngau cymdeithasol ac ati). Darparwyd deunydd hyrwyddo i’r brifysgol i gynghori’r gymuned leol.  Rydym wedi cael ymateb enfawr a chais i ni ddod yn ôl i’r ardal yn ddiweddarach eleni ar gyfer digwyddiad arall.

Y broblem gyda llawer o ddigwyddiadau eraill yr ardal fel sioeau, rasys, eisteddfodau a charnifals yw mai gwirfoddolwyr sydd yn eu trefnu.  Felly a ydy’r feirniadaeth yn deg yn yr achosion hynny?  Cymorth sydd angen ar y gwirfoddolwyr, cymorth ariannol ac ymarferol i wneud y deunyddiau hyrwyddo mwyaf effeithiol.

Diolch i Enid Heneghan am godi’r cwestiwn.  Rhaid i ni beidio â cholli pob cyfle i ddenu ymwelwyr i’n digwyddiadau.  Wedi’r cwbl mae digwyddiad fel yr Ŵyl Fwyd yn llwyddo’n rhyfeddol bob blwyddyn.  Sut mae adeiladu ar hyn er lles yr economi?