Diwrnod cyntaf Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin!

Dilynwch blog byw Clonc360 am y diweddaraf o’r maes yn Llanymddyfri!

gan Ifan Meredith

Croeso i’r Eisteddfod!

Mae criw Clonc360 yn barod ar y maes i ddod â’r diweddadaf i chi o’r maes.
Golygu dod draw i’r maes? – beth am rannu eich profiad ar y blog byw yma?

16:55


Côr Ysgol y Dderi.
Mae’r gystadleuaeth hon wedi ei noddi gan Castell Howell a’r arwyddo wedi ei noddi gan Ashmole & Co.

16:29

Ysgol y Dderi yn barod i gystadlu yng nghystadleuaeth ola’r dydd yn y Pafiliwn Gwyrdd- Côr bl. 6 ac iau.

15:56

Llongyfarchiadau i Rhys Iolo Evans, Ysgol y Dderwen am ennill cystadleuaeth Llefaru blwyddyn 2 ac iau – ŵyr Emyr Richards, Goedwig, Llanbed.

15:18

“Cyfansoddiad a chyfansoddwr ifanc, hyderus, modern ac o safon uchel iawn sy’n llawn haeddu’r Fedal Gyfansoddi eleni.”

Gwydion Rhys yw Prif Gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd eleni. Daw Gwydion o Rachub yn Nyffryn Ogwen ac yn 20 mlwydd oed ac yn cysyadlu dan y ffugenw ‘Tannau Perfedd’. Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Gynradd Llanllechid ac Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda mae ar fin cwblhau ei ail flwyddyn yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain ble mae’n astudio Cyfansoddi gydag Alison Kay.

Daeth naw cyfansoddiad i law y beirniaid, Dr Owain Llwyd a Dr Daniel Bickerton.

13:00

Llongyfarchiadau i Neli Ilar Evans, Ysgol Talgarreg @cwilt360 ar ennill Unawd Cerdd Dant Bl. 2 ac Iau. 

12:59

Levi Spooner, Ysgol Bro Pedr yn cystadlu yn yr Unawd Piano. 

12:45

Y piano wedi ei osod ar gyfer cystadleuaeth yr Unawd Piano bl. 6 ac iau. 

09:43

Cystadlaethau ardal Clonc360 heddiw:

12:25- Unawd Piano bl. 6 ac iau- Levi Spooner, Ysgol Bro Pedr- Pafiliwn Gwyn

12:40- Llefaru Unigol bl. 2 ac iau- Alys Powell, Ysgol Llanllwni- Pafiliwn Coch

16:00- Côr bl. 6 ac iau- Ysgol y Dderi- Pafiliwn Gwyrdd

Pob lwc i bawb!