Ar drothwy Eisteddfod yr Urdd…

Mae’r maes yn barod i groesawu eisteddfodwyr Cymru i’r ŵyl i bobl ifanc mwyaf yn Ewrop.

gan Ifan Meredith
URDD GOBAITH CYMRU

Cartref Eisteddfod yr Urdd eleni yw Llanymddyfri ac wedi tair blynedd o baratoi, mae Sir Gâr yn barod i groesawu’r ŵyl.

Mewn datganiad i’r wasg, medd Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau bod yr “Urdd i bawb yn Eisteddfod Sir Gaerfyrddin” wrth i gefnogaeth ariannol o £150,000 gan Lywodraeth Cymru alluogi’r Urdd i roi mynediad am ddim i deuluoedd ar incwm isel.

“Rwy’n hynod falch o ychwanegu cystadleuaeth Côr Cynradd i Ddysgwyr fel rhan o’r ŵyl eleni, a braf yw gweld bod chwe chôr wedi cofrestru i gystadlu.  Bydd hyn yn rhoi cyfle i siaradwyr newydd oed cynradd brofi diwylliant Cymru ac elwa o berfformio ar lwyfan yr Eisteddfod.

Yn dilyn ymateb “arbennig” i roi llwyfan i bawb yn yr Eisteddfod llynedd, mi fydd hyn yn parhau eleni gyda’r pafiliynau Coch, Gwyn a Gwyrdd wedi eu lleoli ar y maes. Yn ogystal, mae gŵyl Triban yn ôl gyda’r lein-yp yn “goron ar yr wythnos”. Mae’r artistiaid yn cynnwys Dadleoli, Adwaith a Dafydd Iwan.

“profiad unigryw i blant a phobl ifanc Sir Gâr”

Medd Arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, y Cynghorydd Darren Price bod “Sir Gâr cyfan yn barod i groesawu Eisteddfod yr Urdd 2023 i Lanymddyfri” a’i bod hi’n “fraint i gefnogi’r ŵyl”.

Mi fydd gohebwyr Clonc360 ar y maes drwy’r wythnos er mwyn dod â’r diweddaraf o’r cystadlu drwy’n blogiau byw yn ystod yr wythnos ac wedi paratoi amserlen ar gyfer y cystadlaethau o’r ardal hon!

Dilynwch y linc isod i weld pryd a ble mae cystadlaethau’r ardal yn ystod yr wythnos a chofiwch gyfrannu os byddwch yn dod draw i’r maes. Cofiwch hefyd alw draw ym mhabell y Celf a Chrefft i weld holl lwyddiannau’r ardal yn yr adran honno a llongyfarchiadau i bawb sydd wedi dod i’r brig yng nghystadlaethau’r Cyfansoddi a Chreu.

Amserlen Eisteddfod yr Urdd Clonc360

 

Merched Ysgol Llanllwni yn barod i berfformio HEDDIW (Dydd Sul) ar Faes yr Eisteddfod fel rhan o Chwilio’r Chwedlau.