(Stori a ymddangosodd yn rhifyn Mai Papur Bro Clonc).
Mae ‘Seren y Dartiau’ gyda ni yn byw ar Heol Llanfair sef Elonwy Thomas, Awelon. Mae yn chwarae i dim dartiau Llewod Llanbed a wedi cael ei dewis i chwarae dros Gymru yn WDO Rhyngwladol y Tair Gwlad yn un o dîm o chwech o dan 18 oed.
Cynhaliwyd y gemau yn Skegness, Swydd Lincoln ar ddiwedd Ebrill. Mae wedi cael ei dewis hefyd i chwarae dros Gymru yn Vienna ym mis Gorffennaf yng Nghwpan Ewrop yn erbyn y timau ifanc gorau yn Ewrop. Llongyfarchiadau cynnes iawn i ti a phob lwc yn y gystadleuaeth nesa yn Vienna.
Mae Elonwy hefyd wedi ennill lle gyda chymar i gynrychioli tîm ieuenctid Sir Forgannwg yn nghystadleuaeth merched Siroedd y De o dan 21 oed sydd yn cymryd lle yn Reading ym mis Mehefin. Elonwy a’i chymar chwarae y flwyddyn ddiwethaf sydd yn dal y teitl yma ar hyn o bryd.
Mae Brynmor hefyd wedi cael tymor llwyddiannus yn chwarae mewn tait cynghrair dartiau lleol sef Llandysul, Aberaeron a Llanbed. Fe enillodd twrnament unigol Cynghrair Llandysul, ac ennill dwbl gyda William (cariad Llinos) yng nghynghrair Llanybydder. Fe oedd ‘Chwaraewr y Tymor’ yng nghynghrair Llanbed gyda Lyn, ei dad yn 5ed ac Alex, ei fam yn 8fed. Brynmor oedd capten Tîm B Llain y Castell.
Yng nghynghrair Aberaeron mae un neu rhagor o deulu Awelon wedi cyrraedd y rownd derfynol o bob cystadleuaeth heblaw Cwpan y Capten. Mae Brynmor a Lyn hefyd yn chwarae i ‘Ceitho Lads’ a nhw hefyd wnaeth ennill y gynghrair yma.