Aled Hall a Fflur Wyn sy’n beirniadu cystadleuaeth Llais Llwyfan Llanbed eleni gyda Rhiannon Pritchard yn cyfeilio. Cynhelir y rhagbrawf yn Festri Brondeifi heddiw.
Aled Hall o Bencader oedd y cyntaf i ennill y gystadleuaeth hon tua 30 mlynedd yn ôl a bu Aled a Fflur Wyn yn gystadleuwyr selog a safonol yn Eisteddfod Rhys Thomas James Panyfedwen Llanbed o oedran ifanc iawn.
Mae trefn newydd ar y gystadleuaeth hon eleni a disgwylir rhyw 20 o gantorion i gystadlu. Yn lle cynnal y rhagbrawf a’r gystadleuaeth ar yr un diwrnod ym mis Awst, rhennir y ddau beth ar ddyddiadau arwahan eleni.
Gofynnir i’r cystadleuwyr baratoi rhaglen amrywiol, glasurol ei naws, hys at 15 munud o hyd. Rhaid cynnwys un gân gan gyfansoddwr Cymraeg a dylid ei chanu yn Gymraeg.
Cynigir gwobrau hael sef £2000 am y cyntaf, £1000 i’r ail, £500 i’r trydydd a £250 i’r pedwerydd.
Gwyliwch y cyfweliad fideo byr uchod o Aled Hall yn siarad am y gystadleuaeth bore ma wrth iddo alw am baned yn Llanbed cyn mynd i feirniadu.