Cyhoeddodd yr heddlu bod dyn o ardal Tregaron wedi ei gael yn euog o dreisio tair menyw yn y sir dros gyfnod o ddwy flynedd.
Ar brynhawn 6ed Mai 2021 derbyniodd yr heddlu alwad bod trais rhywiol newydd ddigwydd mewn coetir ger Llanbed.
Ymatebodd yr heddlu’n gyflym iawn gan adnabod y sawl a ddrwgdybiwyd yn y lleoliad.
Fodd bynnag, rhedodd Saul Rowan Henvey, oddi wrth yr heddlu gan ddechrau ymgyrch chwilio dan arweiniad arbenigwyr dros nos, gan ddefnyddio amrywiaeth o swyddogion, adrannau a gwirfoddolwyr.
Yn dilyn ei weld ar fore 7fed Mai, cafodd y dyn 47 oed ei ddarganfod a’i arestio.
Dros y dyddiau canlynol cynhaliwyd ymchwiliad heddlu dwys mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yn ogystal ag arbenigwyr meddygol a fforensig, gan arwain at ei gyhuddo ar 8fed Mai 2021 a’i orchymyn i’r llys.
Yn dilyn hyn, dywed yr heddlu yr ailymwelwyd â honiad blaenorol o dreisio yn Llanbed ym mis Mai 2019, a wnaed yn erbyn Henvey ym mis Ionawr 2020.
Ni wnaed dim ar y pryd oherwydd rhesymau tystiolaethol, ond dangosodd y dioddefwr yn yr achos hwnnw, bod yna debygrwydd cryf yn ymddygiad Henvey yn ystod y ddau ymosodiad. Doedd dim cysylltiad o gwbl rhwng y ddau ddioddefwr.
Yn ogystal â hynny, clywyd gan ddioddefwr arall am honiadau o dreisio yn ardal Llanddewi Brefi rhwng mis Mawrth a mis Ebrill 2021 yn dilyn y cyhoeddusrwydd am yr ymosodiad yn y coetir yn Llanbed. Doedd y dioddefwr newydd ddim yn perthyn i’r llall chwaith.
Arweiniwyd ymchwiliad pellach gan yr heddlu mewn cydweithrediad â’r CPS at gyhuddiadau ychwanegol o dreisio yn erbyn Henvey ar 7fed Gorffennaf 2021 ar gyfer y ddau ddioddefwr ychwanegol.
Cynhaliwyd yr achos yn Llys y Goron Abertawe yn ystod wythnos y 27ain Chwefror 2023, gyda’r rheithgor yn cael ei anfon allan brynhawn dydd Llun, 6ed Mawrth.
Dychwelasant reithfarn unfrydol heddiw gyda Henvey yn euog o bedwar cyhuddiad o dreisio yn ymwneud â’r tri dioddefwr.
Dywedodd DI Adam Cann:
“Rydym yn croesawu euogfarn Henvey am droseddau mor erchyll a threisgar yn erbyn menywod yn ein cymunedau.
“Mae’r effaith ar fywydau’r rhai yr effeithiwyd arnynt gan weithredoedd Henvey yn y troseddau erchyll hyn wedi bod yn ddinistriol.
“Gobeithio, nawr ein bod wedi sicrhau’r euogfarnau hyn, a wnaed yn bosibl oherwydd dewrder a phenderfyniad y dioddefwyr. Gallan nhw nawr deimlo bod diwedd ar y mater a bod aelodau pellach o’r gymuned yn cael eu hamddiffyn rhag unigolyn peryglus iawn.”
Bydd Henvey yn cael ei ddedfrydu yn ddiweddarach tra’n aros am ganlyniad adroddiadau cyn-dedfrydu angenrheidiol.