Mae’r twyllwyr ffôn wedi bod yn ‘sbwffio’ rhifau o Lanbed (01570) er mwyn ceisio twyllo pobl i adnewyddu tanysgrifiad Amazon.
Beth yw ‘sbwffio’?
‘Sbwffio’ neu ‘spoofing’, yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio galwadau sy’n cael eu gwneud o bell ond yn dangos ar ffôn yr atebwr yn rif ffôn lleol iddyn nhw. Er nad yw hyn yn anghyfreithlon, mae twyllwyr yn cymryd mantais o’r cyfleuster er mwyn gwerthu nwyddau ffug.
Profodd Rhiannon Lewis, Cwmann alwad i’w ffôn ar y 4ydd o Ebrill o rif 01570 482 134 a oedd yn ymddangos i fod yn rif lleol.
Mewn neges ar Drydar, bu’n rhybuddio pobl ardal Clonc360 i fod yn ’wyliadwrus’ wrth iddi esbonio bod y galwadau yn dod oddi wrth rif lleol.
Wrth ymateb i Drydar Rhiannon, medd Cyril Evans sydd yn byw yn ardal Tregaron bod yna alwadau tebyg o rif ffôn o’r ardal honno (01974). Peiriant oedd y twyllwyr yma yn trio perswadio bod yna broblem gyda cherdyn banc.
Mewn ymateb, medd Paul Callard, Rheolwr Tim Troseddau Economaidd, Heddlu Dyfed Powys mai ‘Sbwffio’ yw’r enw ar y weithred o ddefnyddio rhifau ffôn lleol er mwyn twyllo. Mae yna nifer sylweddol o adroddiadau am alwadau ffug o’r fath ac ers 2020, mae Heddlu Dyfed Powys wedi sefydlu adran i fynd i’r afael â sgamiau wrth iddynt dderbyn yr galwadau gan y cyhoedd cyn pasio hynny i dîm cenedlaethol ‘Action Fraud’.
Ym mis Mawrth, cyfeiriodd Heddlu Dyfed Powys 295 o achosion i ‘Action Fraud’. Ar gyfartaledd, cofnodwyd 200 o achosion o dwyll yn fisol gan Heddlu Dyfed Powys.
Wrth siarad â Clonc360, soniodd Rhiannon am y peiriant a oedd ochr draw’r ffôn yn ceisio gwerthu’r tanysgrifiad iddi. Esboniodd ei bod wedi cal galwad o’r fath o’r blaen ac felly yn annog pobl i fod yn ‘ofalus’.
Mae’r Heddlu yn cynghori pobl i fod yn wyliadwrus ac i gymryd y camau canlynol:
- Peidio ymateb yn syth i’r alwad.
- Cymryd amser i feddwl am yr hyn mae’r galwr yn gofyn i chi wneud.
- Ystyried bod dim byd am ddim ac os yw’n swnio’n rhy dda i fod yn wir, nid yw’n wir.
- Siarad â rhywun rydych yn ymddiried ynddo.
- Maent hefyd yn cynghori i siarad Cymraeg â’r galwr er mwyn iddyn nhw roi’r gorau i’r alwad.