Pencampwyr y Principality!

Llongyfarch Merched blwyddyn 7 Bro Pedr ar ôl gêm buddugoliaethus yn dilyn eu taith i’r Principality

gan Ifan Meredith
RYGBI

Ar fore Mawrth, y 25ain o Ebrill, roedd cynnwrf wrth i dîm o 17 chwaraewraig rygbi adael Llanbed yn barod am frwydr gyda dau fws o gefnogwyr yn eu dilyn i’r brifddinas. Gorffennodd y gêm gyda chanlyniad campus i dîm Merched Blwyddyn 7 Bro Pedr yn ennill o 51 i 10 yn erbyn Ysgol Bro Dur.

Roedd gan Fro Pedr sgwad o 23 o chwaraewyr gyda 12 o rheiny yn chwarae ar y cae yn ystod y gêm:

  1. Julia
  2. Mikayla
  3. Gwenno
  4. Lily
  5. Maisie
  6. Tilly
  7. Skye
  8. Madi
  9. Molly
  10. Eva
  11. Abbie
  12. Deina
  13. Phoebe
  14. Layla
  15. Mari
  16. Domika
  17. Non

Sgwad Estynedig: Gabi, Leah, Megan, Sophie, Vanessa, Efa

Er mwyn cyrraedd y Principality, roedd yn rhaid ennill rowndiau sirol a rhanbarthol wrth iddynt ennill Rownd Ceredigion yn Aberaeron, yna rownd y Scarlets yn Nantgaredig cyn dod yn ail yn rownd y goreuon o’r rhanbarthau ar ôl ennill pob un gêm ond un. Enillwyd yn erbyn tîm o’r Gogledd oedd yn yr un sefyllfa er mwyn sicrhau lle yn y rownd derfynol yn Stadiwm y Principality.

Sgorwyr ceisiau Bro Pedr yn y gêm oedd Julia (2), Phoebe (2), Molly (2), Eva, Lily a Layla gyda Eva yn cicio tri throsgais. Roedd yna hyd yn oed masgots gan Fro Pedr sef Emmi ac Elis!

Roedd pob aelod o’r sgwad yn cael y cyfle i fod yn rhan o sesiwn ymarfer ar gae’r Principality a chael siwmperi wedi eu noddi gan PB glazing, MP Beautique, Wize Property Investments a Saer Coed a thöwr Herrick

Mae’r hyfforddwr, Miss Carwen Richards wedi bod wrthi yn paratoi a thyfu’r sgwad er mwyn sicrhau sgwad eang tuag at y dyfodol ac meddai bod “sgôr heddiw yn adlewyrchu’r gwaith caled maent wedi ei wneud ers misoedd”.

“Llongyfarchiadau mwyaf i’r merched. Mae’r holl waith hyfforddi wedi golygu bod y gêm wedi bod yn rhwydd iddynt. Diolch i’r ysgol am ganiatáu i’r disgyblion a’r cefnogwyr fynd i’r gêm heddiw. Diolch hefyd i Mr Owain Bonsall, Swyddog Datblygu Rygbi’r ysgol am ei waith wrth baratoi. Mae’r cydweithio heddiw yn dyst o’r gwaith tîm sydd wedi bod yn mynd ymlaen yn yr adran.”

Mewn datganiad ar wefannau cymdeithasol Ysgol Bro Pedr, mae diolch yr ysgol yn fawr i’r hyfforddwyr o’r 6ed Dosbarth sef Wil, Osian, Levi a Jorge.

Fel pennaeth blwyddyn 7, roedd cael bod yn y gêm heddiw yn “destun balchder llwyr” i Mrs Rhian Wyn Morris wrth iddi ddatgan bod:

“yr ysgol gyfan wedi’u cyffroi yn llwyr gyda buddugoliaeth y merched heddiw yng Nghaerdydd. Mae’r sgwad a’r hyfforddwyr yn sicr wedi mynd y filltir ychwanegol wrth baratoi gan sicrhau bod Ysgol Bro Pedr yn codi’r cwpan ar y chwiban olaf! Roedd cael bod yn y stadiwm heddiw i brofi’r fath awyrgylch a chefnogaeth yn destun balchder llwyr i mi. Braf hefyd oedd gweld cymaint o rieni wedi teithio i’r ddinas i gefnogi – Mewn undeb mae nerth!”

Mae modd gwylio’r gêm yn llawn ar sianel YouTube Undeb Rygbi Cymru drwy ddilyn y linc yma o 00:00:00.

Mae hefyd modd gweld uchafbwyntiau’r gêm drwy gyfri Facebook Undeb Rygbi Cymru.

Mae bechgyn blwyddyn 10 ac 11 yn chwarae yfory (26.4.23) yn rownd cynderfynol cystadleuaeth Plât y Scarlets yn erbyn Maes y Gwendraeth ym Maes y Gwendraeth a’r gic gyntaf am 4yp.