Ddydd Gwener, Tachwedd 10, cynhaliodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ei Seremoni Wobrwyo flynyddol ‘Mwy Na Dim Ond Tanau’ yng Ngwesty a Sba y Metropole yn Llandrindod.
Cyflwynwyd y Wobr Hyrwyddwr Elusen i Dîm ‘Yr Her Fawr’ oedd yn cynnwys Aled Morgan o Lanbed a Kevin Hughes o Gellan, am eu hymdrechion elusennol syfrdanol, gan feicio o Land’s End i John O’Groats a chodi dros £15,000 i Elusen y Diffoddwyr Tân, Cerebral Palsy Cymru a 2wish.
Adnabyddir Aled Morgan (Mogs i lawer yn ardal Llanbed), bellach fel Rheolwr Gwylfa Gorsaf Dân Llanbed. Cafodd Aled y cyfle i gymryd rhan mewn her seicol o Lands End, sef y pegwn pella yng Nghernyw i John O Groats, sef y cornel Gogledd Dwyrain yn yr Alban. Roedd hyn yn golygu seiclo ar gyfartaledd o 100 milltir bob dydd am 10 diwrnod. Bu Aled yn seiclo wrth ochr Kevin Hughes, sydd hefyd o Lanbed yn wreiddiol ac yn gweithio i’r Frigâd yn llawn amser.
Ymunodd Aled â’r tîm oherwydd ei fod wrth ei fodd ar ei feic, wedi llwyddo cwblhau sawl cwrs Ironman sy’n dystiolaeth o’r mwynhad mae e’n cael o osod a chyflawni heriau. Ond yn fwy pwysig bod yna aelod o’r tîm yn dod o gefndir ar alwad y Frigad dân. Fel y gwyddoch mae modd gweithio fel Swyddog Tân llawn amser mewn rhai trefi a dinasoedd.
Yn Llanbed, ac ardaloedd cyfagos, rydym yn dibynnu ar unigolion sy’n gweithio mewn swyddi eraill, llawn amser, yn ogystal â chwarae rôl pwysig yn ddiffoddwyr tân gan fynychu galwadau ar unrhyw adeg yn ystod y dydd a’r nos, gyda nifer yn Llanbed ar gael am 120 o oriau bob wythnos. Roedd y seiclwyr yn gyfuniad o bersonel tân sydd yn gweithio yn llawn amser, neu wedi gwneud hynny, felly roedd Aled yn falch iawn cael chwifio baner y diffoddwyr ar alwad.
Er bod Aled wedi seiclo milltiroedd mewn gwahanol ardaloedd, ei hoff ran o’r daith, bron 1000 o filltiroedd, heb os oedd yr Alban. Dywedodd,
“Roedd y golygfeydd yn odidog o ben y Cairngorms. Roedd hyn yn gwneud y seiclo tipyn yn haws wrth fedru canolbwyntio ar rywbeth heblaw’r tarmac yn pasio’n ddibaid o dan bob troell y pedal. Wrth deithio o fan i fan, cafodd y criw lawer o ddifyrwch yn cwrdd ag amryw o bobol yn cynnig eu cefnogaeth a storiau personol.”
Dewiswyd tair elusen i godi arian iddynt, sef Fire fighters Charity, Cerebral Palsy Cymru a 2Wish. Roedd clywed am brofiadau bywyd rhai o’r bobl sy’n elwa o waith yr elusennau arbennig yma cyn cychwyn ar y daith, yn ddigon o ysgogiad i gadw’r tîm o 12 i fynd yn ystod yr adegau mwyaf anodd o’r daith. Roedd hefyd gweld y cyfanswm â godwyd yn codi wrth i’r daith fynd yn ei blaen hefyd yn dipyn o hwb i’r criw. Teimlodd Aled yn lwcus iawn i fedru bod yn rhan o’r daith a’r profiad arbennig.
Ychwanegodd Aled,
“Roedd yr adegau heriol yn cynnwys y diwrnod cyntaf, lle bu llawer o ddringo ar heolydd bach a chul Cernyw, ymladd yn gyson gyda’r gwers, er i fi fod yn ddiolchgar am gyn lleied o law. Bob dydd, heb syndod bu gostyngiad yn morale y criw rhyw 20 milltir cyn y diwedd, ond wrth gydweithio a chefnogi ein gilydd, daethon ni i ben y daith bob dydd, gan rannu straeon, tipyn o chwerthin ac adloniant wrth aelodau’r tîm.”
Hyd hyn mae’r tîm wedi cyrraedd cyfanswm o £15,435.32. Os ydych yn dymuno cyfrannu mae dal modd gwneud gan ddilyn y ddolen hon.
Llywyddwyd y noson gan y dyfarnwr sydd â’r nifer fwyaf o gapiau yn y byd rygbi, Nigel Owens MBE, ac roedd yn gyfle arbennig i ddiolch a chydnabod ymdrechion rhyfeddol, gwaith caled ac ymroddiad staff y Gwasanaeth a gwirfoddolwyr o bob rhan o ardal y Gwasanaeth dros y 12 mis diwethaf.
Roedd y seremoni’n cynnwys cyfanswm o 11 categori ar gyfer gwobrau, a ddyfarnwyd i unigolion a thimau a enwebwyd gan eu cyfoedion a’u cydweithwyr, gan gynnwys gwobr am Gyfraniad Eithriadol, Hyrwyddwr Elusen a Gwobr Dewrder y Prif Swyddog Tân, ymhlith eraill.
Wrth siarad yn ystod y seremoni, dywedodd y Prif Swyddog Tân Thomas:
“Mae’r noson hon yn achlysur arbennig lle rydym yn ymgynnull i ddathlu ymdrechion, ymroddiad a dewrder rhagorol pawb sy’n cyfrannu at y Gwasanaeth.
Rydym wedi dod at ein gilydd nid yn unig i gydnabod yr unigolion a’r timau eithriadol sydd wedi mynd y tu hwnt i’r disgwyl yn enw dyletswydd, ond hefyd i ddangos bod ein rôl ni mewn cymdeithas yn wir yn ‘Fwy Na Dim Ond Tanau’.
Nid ydym yn cymryd digon o amser i ddathlu ein llwyddiannau gwych i wneud Canolbarth a Gorllewin Cymru yn lle mwy diogel i fyw, i weithio ac i ymweld ag ef.”