‘Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleusterau’
Mae Ysgol Bro Pedr ynghau heddiw eto er ymdrechion i ail-agor. Mae hyn yn golygu bydd gwaith yn cael ei ddarparu dros ‘Teams’ heddiw eto.
Mae disgyblion ysgol Y Dderi hefyd yn cadw draw o’r ystafell ddosbarth am yr ail ddiwrnod o achos y tywydd garw. Byddwn yn eich cadw wedi diweddaru ar Clonc360 wrth i’r tywydd garw ddatblygu.
Mae ysgolion Llanllwni a Llanybydder yn ogystal ag Ysgol Dyffryn Cledlyn wedi agor eu safleoedd ar gyfer staff a disgyblion heddiw tra bod Ysgol Carreg Hirfaen yn parhau ar gau.
Roedd effeithiau ar yr heolydd ddoe yn amlwg wrth i helynt y tywydd a fu ddod i’r amlwg. Gwelwyd effaith hefyd ar wasanaethau sbwriel yr ardal wrth i safleoedd gwastraff Llanbed a Llanarth fod ar gau ddoe a chasgliadau wedi eu tarfu yn ardaloedd Pencader, Maesycrugiau, Llanfihangel-ar-arth a Chastell Newydd Emlyn. Mae’r safleoedd gwastraff Llanbed a Llanarth yn parhau ynghau heddiw.
Mae’r neges o ofal yn parhau heddiw wrth i rybudd melyn parhau mewn grym tan hanner dydd heddiw. Gyda’r Heddlu yn parhau i rybuddio am yr heolydd llithrig ar ôl iddi ostwng i -3*C dros nos.ysgol