Heol Llanfair ar gau am dridiau

Gwaith Atgyweirio Gwasanaeth dŵr yn golygu bod dim modd teithio rhwng Llanbed a Llanfair Clydogau

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
29F208DA-22E0-4FC6-BFD7

O’r 19eg i’r 21ain Gorffennaf mae gwaith atgyweirio brys yn digwydd ar y gwasanaeth dŵr sy’n golygu bod Heol Llanfair rhwng Llanbed a Llanfair Clydogau ar gau.

Fe welir arwyddion ffordd yn cyfeirio cerbydau i ddefynyddio’r B4343 yn lle hynny rhwng Cwmann a Llanfair Clydogau drwy bentref Cellan.

Mae’r gwaith yn digwydd rhwng 8yb a 6yh ond does dim mynediad i gerbydau 24 awr y dydd.