Elin Williams o Gwmann yw un o hyfforddwyr llefaru gorau Cymru ac fe brofwyd hynny yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni.
Elin a fu’n hyfforddi Parti Llefaru Man a Man o ardal Llanbed a gafodd y wobr gyntaf o blith 14 parti llefaru ddydd Iau. Dywedodd Elin,
“Mor browd o griw brwdfrydig, angerddol ‘Man a Man’ a enillodd y wobr gyntaf am barti llefaru gyda’u cyflwyniad o ‘Yma wyf inna i fod’ ym Moduan. Diolch am y cwmni da a’r chwerthin ar hyd y daith!
Wedyn roedd Elin yn gyfrifol am hyfforddi Côr Llefaru Sarn Helen, hefyd o ardal Llanbed a gafodd yr ail wobr ddydd Gwener. Yn ogystal â hynny, roedd Elin yn perfformio gyda’r côr. Ychwanegodd Elin,
“Ail i griw Sarn Helen yn y côr llefaru ym Moduan gyda chyflwyniad am ‘Yr her yng ngeiriau Gerallt’. Yn hyfforddwraig hynod o falch eto. Braf bod gyda ffrindiau da ar y llwyfan. Steddfod Llambed ddiwedd Awst nesa! Llongyfarchiadau Genod Llŷn.”
Ddydd Llun, enillodd Elan Jones, Cwmann Ruban Glas am lefaru yn yr eisteddfod a thalodd deyrnged i Elin Williams am ei hyfforddi ar gyfer y gystadleuaeth honno. Dywedodd Elan,
“Fel un sydd wedi joio steddfota ers yn ifanc, rydw i wedi bod mor ffodus i gael Elin fel hyfforddwraig ar gyfer llefaru unigol ac mewn grwpiau, ac wedi profi cryn lwyddiant o dan ei harweiniad medrus! Mae ganddi’r ddawn i ddadansoddi’r darnau’n drylwyr ac i drosglwyddo ac esbonio hynny wrth hyfforddi.”
Ychwanegodd Elan,
“Mae’n berson hyfryd, mae’n amyneddgar a chefnogol ac rwy’n cael llawer o sbort a sbri gydag Elin – dw i bob amser yn chwerthin yn ei chwmni! Hyd yn oed os bydd Elin yn brysur, cymaint yw ei hymroddiad fel y bydd hi’n sicrhau bod cyfle i ymarfer a dw i hyd yn oed wedi mynd gyda hi â’r car i’r garej a chael gwers lefaru ar y ffordd yno ac wrth fynd o gwmpas siop Matalan ac Aldi!!”
Mae Elan mor ddiolchgar i Elin,
“Hoffen ni ddiolch o galon iddi am yr holl gyfleoedd a chymorth yr wyf wedi derbyn ganddi dros y blynyddoedd – mae hi wirioneddol yn seren!”
Yn gyn enillydd Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn, yn feirniad cenedlaethol, hyfforddwraig a pherfformwraig o safon, mae Elin wedi hen ennill enw da yn y byd llefaru.