O Lanbed i Lundain!

Taith ddiddorol i San Steffan gyda’r Cyngor Ieuenctid a chwrdd â Ben Lake.

gan Ifan Meredith
IMG_1760

Rwyf yn ddiolchgar iawn am gael y cyfle i fod yn rhan o daith Cyngor Ieuenctid Ceredigion i Lundain rhwng y 13eg a 14eg o Fehefin dan nawdd Llywodraeth Cymru. Yn wir, roedd yn brofiad anhygoel i gael bod yn bresennol yn Nhŷ’r Cyffredin am daith o gwmpas yr ardal hanesyddol yn San Steffan.

Ar ôl pedair awr o deithio i Paddington, gwnaethom ein ffordd i San Steffan er mwyn cwrdd â’r Aelod Seneddol, Ben Lake yn Nhŷ’r Portcullis ochr draw i Balas San Steffan cyn troedio o dan y ffordd i Dŷ’r Cyffredin.

Cyn ymweld â Neuadd St Stephen, gwelwyd tŷ Siaradwr Tŷ’r Cyffredin, Syr Lindsay Hoyle a’r ffordd hir i gyrraedd y maes parcio. Yn wir, roedd yn werth gweld Cart Gwladol Llefarydd y Coroni yn neuadd St Stephen wedyn a dysgu am straeon difyr gan Ben am gysylltiadau Ceredigion gyda San Steffan gan gynnwys darganfyddiad gwely’r Brenin yng Ngheredigion wedi blynyddoedd o fod ar goll!

Ar ddiwedd Neuadd San Steffan roedd ffenestr goffa’r Rhyfel Cartref a arbedwyd yn ystod tân Llundain yn 1834. Roedd y llwyfan yno yn amlwg yn fan lle saif y frenhiniaeth yn ystod anerchiadau i Aelodau a Staff y Senedd.

Tu cefn i’r neuadd mae Neuadd St. Stephen ac yn ddiddorol dysgu mai yma llofruddiwyd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Spencer Perceval ar yr 11eg o Fai, 1812.

Ar ymyl y neuadd, gwelir y Dderbynfa (Lobby) Ganolog ac i’r Chwith coridor i Dŷ’r Cyffrredin ac i’r dde, mynediad i Dŷ’r Arglwyddi. Roedd yn gyfle arbennig i gael mynd mewn i Dŷ’r Cyffredin i wylio rhan o ddadl y Bil Mesurau Technolegol.

Ar ddiwedd ein hymweliad â Thŷ’r Cyffredin, aethom am baned a sgon i un o fariau’r tŷ. Y brif ddadl fan honno oedd sut i roi’r jam a’r hufen ar y sgon?! Jam neu hufen yn gyntaf?

I gloi’r noson, aethom am dro lawr Stryd Whitehall ac i Stryd Downing cyn mynd heibio i baratoadau ‘Trooping of The Colour’ ym Mhalas Buckingham.