Llais Llwyfan Llanbed 2023

Cyhoeddi enwau’r pedwar unawdydd sydd wedi sicrhau’u lle yn y rownd derfynol.

Delyth Phillips
gan Delyth Phillips
4-llais-llwyfan-llanbed-2023

Dafydd, Manon, Angharad, Owain

Mae eleni yn nodi 30 mlynedd ers geni Llais Llwyfan Llanbed, y gystadleuaeth fawr i gantorion o dan 30 oed. Am flynyddoedd, rhoddwyd £1,000 a thlws i’r unawdydd gorau. Ond bellach, mae’r wobr wedi dyblu i £2,000, yn ogystal â’r tlws.

Eleni, am y tro cyntaf, mentrwyd ar gynllun newydd. Yn hytrach na chynnal y rhagbrawf ar brynhawn Sul Gŵyl Banc Awst, a’r gystadleuaeth wedyn yn yr hwyr, penderfynwyd cynnal y rhagbrofion yn gynt yn y flwyddyn. Felly, dydd Sul 25 Mehefin cafwyd gwledd o ganu yn festri Brondeifi. Bu 18 o gantorion ifanc yn cystadlu – 15 ohonyn nhw wedi dod i Lanbed, a 3 wedi cystadlu ar Zoom.

Beirniaid y gystadleuaeth oedd Aled Hall, enillydd y Llais Llwyfan Llanbed cyntaf erioed yn 1993, a Fflur Wyn, a gipiodd y wobr yn 2001. Cafodd Dylan Lewis air ar ran Clonc360 ag Aled Hall fore Sul. Rhaid wrth gyfeilydd da hefyd i gystadleuaeth o’r safon yma, a braf oedd croesawu Rhiannon Pritchard atom.

Pwy felly yw’r pedwar sydd drwyddo i’r rownd derfynol ar nos Sul, 27 Awst 2023?

Dafydd Jones (tenor)
Manon Ogwen Parry (soprano)
Angharad Rowlands (mezzo-soprano)
Owain Rowlands (bariton)

Mae’r rownd derfynol yn addo i fod, yng ngeiriau Fflur Wyn, “yn gyngerdd heb ei hail”.

Wrth ymateb i’r cystadlu ddydd Sul, meddai Rhiannon Lewis, cadeirydd pwyllgor cerdd Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen, “Gyda phedwar unawdydd o’r safon yma, unawdwyr ac enwau sy’n gyfarwydd i ni, fy ofn (a fy ngobaith) nawr yw na fydd yr Hen Neuadd yn y coleg yn ddigon o faint ar gyfer y rownd derfynol.  Yn sicr rwy’n credu y byddai’n werth i ni annog pobl i brynu tocynnau o flaen llaw wrth hyrwyddo’r noson, ac fe allwn ni wedyn fonitro’r gwerthiant wrth fynd ymlaen.”

Llongyfarchiadau felly i’r pedwar unawdydd, ac edrychwn ymlaen at benwythnos llawn diwylliant yn ein Eisteddfod. Cynhelir Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen ar 26-28 Awst ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan.