Enwau mawr y byd Canu yn Llanbed heddiw

Cyfweliad fideo ag Aled Hall sy’n beirniadu Llais Llwyfan Llanbed heddiw

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Aled Hall a Fflur Wyn sy’n beirniadu cystadleuaeth Llais Llwyfan Llanbed eleni gyda Rhiannon Pritchard yn cyfeilio.  Cynhelir y rhagbrawf yn Festri Brondeifi heddiw.

Aled Hall o Bencader oedd y cyntaf i ennill y gystadleuaeth hon tua 30 mlynedd yn ôl a bu Aled a Fflur Wyn yn gystadleuwyr selog a safonol yn Eisteddfod Rhys Thomas James Panyfedwen Llanbed o oedran ifanc iawn.

Mae trefn newydd ar y gystadleuaeth hon eleni a disgwylir rhyw 20 o gantorion i gystadlu.  Yn lle cynnal y rhagbrawf a’r gystadleuaeth ar yr un diwrnod ym mis Awst, rhennir y ddau beth ar ddyddiadau arwahan eleni.

Gofynnir i’r cystadleuwyr baratoi rhaglen amrywiol, glasurol ei naws, hys at 15 munud o hyd.  Rhaid cynnwys un gân gan gyfansoddwr Cymraeg a dylid ei chanu yn Gymraeg.

Cynigir gwobrau hael sef £2000 am y cyntaf, £1000 i’r ail, £500 i’r trydydd a £250 i’r pedwerydd.

Gwyliwch y cyfweliad fideo byr uchod o Aled Hall yn siarad am y gystadleuaeth bore ma wrth iddo alw am baned yn Llanbed cyn mynd i feirniadu.