Llwyddiant cogydd ifanc yn y gegin yn parhau.

Yn ystod y mis diwethaf, bu Marged Jones yn cystadlu yn ffeinal cystadleuaeth ‘FutureChef UK’.

gan Ifan Meredith

Cynhaliwyd y ffeinal ar ddydd Llun, y 13eg o Fawrth, lle bu Marged Jones, disgybl Blwyddyn 11 Bwyd a Maeth, yn Ysgol Bro Pedr yn cystadlu yng nghystadleuaeth coginio ‘FutureChef UK’ yng Ngholeg Kingsway San Steffan (Westminster Kingsway College).

Yn dilyn ei llwyddiant yn y rownd rhanbarthol, a ddisgrifiodd fel profiad ‘bythgofiadwy i goginio mewn cegin broffesiynol’ ym Mhenybont-ar-Ogwr, cafodd Marged y cyfle i goginio mewn ffeinal cenedlaethol a gynhaliwyd gan yr elusen ‘Springboard’ sydd yn helpu ysgogi ac ysbrydoli cogyddion y dyfodol.

Cyn iddi fwrw am Lundain, bu Marged ac Elen yn ddigon ffodus i fynychu sesiwn mentora gyda phrif gogydd Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd, Ryan Jones.

Wrth arwain at y rownd derfynol, bu cinio dathliad yng ngwesty’r Berkeley, Llundain ar y noson gynt a fynychwyd gan deulu Marged a’i hathrawes ysgol. Roedd yn gyfle i’r 12 cystadleuydd ymlacio a dod i adnabod ei gilydd cyn dechrau ar y cystadlu. Yn fuan iawn wedyn roedd yn fore Llun ac yn amser i fynd i’r gystadleuaeth.

“Trin fel cogydd proffesiynol”

Roedd yna sawl gwahaniaeth profodd Marged rhwng y ddwy rownd gyda 12 yn unig o gogyddion ledled Prydain yn cystadlu yn y rownd derfynol. Yn ogystal, roedd ganddi fyfyriwr o’r coleg  yn ei chynorthwyo wrth iddi baratoi’r pryd.

Y briff ar gyfer y rownd derfynol oedd i baratoi, coginio a chyflwyno prif gwrs poeth i bedwar o bobl yn cynnwys brithyll a dewis o gynhwysion o’r rhestr a ddarparwyd iddynt. Ar gyfer y pwdin roedd rhaid paratoi crymbl ffrwythau gyda ‘twist’ gan ganolbwyntio ar ffrwythau tymhorol gan ystyried y cyflwyniad, gwahanol flasau a gweadau. Roedd gan y cystadleuwyr 45 munud i ffiledu a pharatoi dau frithyll cyfan ar gyfer eu prif gwrs ac yna 2 awr arall i baratoi a choginio eu prif gwrs poeth a phwdin.

Yn ystod yr amser, llwyddodd Marged i goginio ‘Pan-fried rainbow trout, pomme duchess, sauté of fennel, fine beans, baby spinach and lime, poached trout and dill mousse, pickled carrot & dill cream sauce’ fel prif gwrs a ‘Mamgu Ffos y Ffin’s “Welsh Cake” crumble, vanilla panna cotta with braised rhubarb’ fel pwdin.

Medd Marged mai’r her fwyaf iddi oedd darogan yr amseri.

“Roeddwn bach yn uchelgeisiol wrth geisio gwneud cymaint mewn cyn lleied o amser ond wnes i gyflwyno pryd safonol roedd y beirniaid yn hynod o hapus efo”

Am 2 o’r gloch daeth y dyfarniad a llwyddodd Marged i ennill y drydedd wobr yn y gystadleuaeth a chanmoliaeth uchel gan y beirniaid. Cafodd Marged ei chyflwyno gyda phlât a medal goffadwriaethol, ffedogau, siaced cogydd a chap, £500 i wario mewn bwyty Michelin, £100 i’w hunan heb anghofio’r tri llyfr rysáit iddi gael pori trwyddynt a datblygu ei sgiliau ymhellach.

Rhan orau’r penwythnos i Marged oedd cael y cyfle i aros mewn gwesty moethus a chael ei thrin fel cogydd proffesiynol. Roedd hefyd wedi mwynhau “cael bwyd mewn gwesty 5 seren  a derbyn llyfrau ryseitiau. Rwyf yn edrych ymlaen at arbrofi gyda’r ryseitiau ar ôl fy arholiadau.”

Yn ôl datganiad gan DT Bro Pedr ar y gwefannau cymdeithasol meddant ei fod wedi bod yn “brofiad anhygoel” i Marged ac yn “gyflawniad arbennig’ i gipio’r drydedd wobr yn y gystadleuaeth safonol hon.

Gobeithia Marged dderbyn canlyniadau da ar gyfer ei harholiadau TGAU ac yna dychwelyd i’r chweched ddosbarth i astudio Gwyddor Bwyd a Maeth fel pwnc Lefel A. Yna, mae yn cadw ei hopsiynau yn agored tua’r dyfodol!

Cofiwch ddarllen Clonc mis yma i ddarllen mwy am ei hanes.